Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ieithoedd Goidelig"

No change in size ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Mae 'r ieithoedd '''ieithoedd Goidelig''', a elwir weithiau yr ieithoedd Gaeleg, yn grŵp o ieithoedd sy'n cynnwys [[Gwyddeleg]] (''Gaeilge''), [[Gaeleg yr Alban]] (''Gàidhlig'') a [[Manaweg]] (''Gaelg''). Rhennir yr ieithoedd Celtig sy'n cael eu siarad heddiw yn ieithoedd Goidelig ac [[Brythoneg|ieithoedd Brythonig]], sy'n cynnwys [[Cymraeg]], [[Cernyweg]] a [[Llydaweg]].
 
Cyfeirir at yr iaith gysefin y datblygodd yr ieithoedd Goidelig ohoni fel '''Celteg Q''' neu '''Goideleg''' ac felly gelwir yr ieithoedd Goidelig yn 'ieithoedd Celteg Q' weithiau hefyd, tra gelwir yr iaith gysefin y tyfodd yr ieithoedd Brythonig ohoni yn Gelteg P ([[Brythoneg]]: iaith y Brydain Geltaidd ac eithrio gogledd yr Alban, tarddiad yr ieithoedd Brythonig). Cadwodd yr ieithoedd Q y sain [[Proto-Gelteg]] *''k<sup>w</sup>'', a daeth yn [k]) yn ddiweddarach. Yn yr ieithoedd Brythonig trôdd y sain *''k<sup>w</sup>'' yn [p]. Ymhlith hen ieithoedd Celtaidd y cyfandir, ceir y [p] mewn [[Galeg]] tra'r oedd [[Celtibereg]] yn cadw'r *''k<sup>w</sup>''.