Uwch Gynghrair Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 118:
|}
 
Wedi tymor 2009/10 cwtogwyd Uwch Gynghrair Cymru o 18 clwb i 12 clwb. Yn rhan agoriadol y tymor mae pob clwb yn y gynghrair yn wynebu pob clwb arall yn y gynghrair ddwywaith; unwaith gartref ac unwaith oddi cartref. Wedi'r gemau yma orffen, mae Uwch Gynghrair Cymru yn rhannu'n ddwy gyda'r chwe chlwb uchaf yn wynebu ei gilydd ddwywaith; unwaith gartref ac unwaith oddi cartref, ac yn cystadlu am y bencampwriaeth, tra bo'r chwech isaf yn wynebu ei gilydd ddwywaith; unwaith gartref ac unwaith oddi cartref, ac yn brwydro i osgoi cwympo allan o'r Uwch Gynghrair.<ref>https://www.wpl.cymru/Structure</ref>
 
Mae clybiau yn gallu sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru o ddau gynghrair rhanbarthol; [[Cynghrair Undebol]] y(clybiau'r Gogledd) a'r [[Y Gynghrair Gymreig|Gynghrair Gymreig]] (clybiau'r De). Er mwyn sicrhau dyrchafiad mae'n rhaid i glwb sicrhau Trwydded Ddomestig UEFA a gorffen y tymor yn bencampwyr un o'r is-gynghreiriau, neu orffen yn ail os nad yw'r pencampwyr yn cael eu hystyried am ddyrchafiad.
 
==Ewrop==