Cyflwr cyfarchol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gramadeg; Cymreigio Seisnigiadau (e.e 'ffurf o'; 'diweddu mewn'; etc)
Llinell 4:
===Cymraeg===
Yr enghraifft amlwg, syml yn y Gymraeg yw pan fydd siaradwr yn treiglo "boneddigion" i ''foneddigion''<ref>https://ybont.org/pluginfile.php/3370/mod_resource/content/5/Uned%203.pdf</ref> ar ddechrau brawddeg er mwyn denu sylw'r gynulleidfa; neu'r athro yn gweiddi "blant" ar ddisgyblion er mwyn cadw trefn. Ceir yn y gân 'O Gymru' gan [[Eleri Llwyd]]<ref>https://www.youtube.com/watch?v=sZY6IgiPYPQ</ref>
 
Efallai mai' un o'r enghreifftiau amlycaf o ddefnydd o'r cyflwr cyfarchiol a hynny'n treiglo enw person (sy'n anghyffredin bellach yn y Gymraeg) yw'r cwpled o gerdd 'Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) gan [[Gerallt Lloyd Owen]]:<ref>https://www.reddit.com/r/PoetryWales/comments/2g0dmn/fy_ngwlad_by_gerallt_lloyd_owen/</ref>
:Wylit, wylit, Lywelyn,
:Wylit waed pe gwelit hyn
 
Gwelir y cyflwr cyfarchol yn yr ieithoedd Gwyddeleg a Gaeleg. Yn wahanol i'r Gymraeg, mae'r ddwy iaith hyn yn dal i dreiglo enwau pobl, ac mae'r enwau "Hamish" yn ffurf gyfarchol (a sillafiad Saesneg) ar Seumas a'r enw Mháiri (a ynganer yn gywir fel 'Fari') yn ffurf gyfarchol ar Màiri. Yn wahanol i'r Gymraeg mae'r ieithoedd Goideleg yn dal i arddel y [[cyflwr genidol]].