Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lleuad"

Ychwanegwyd 21 beit ,  2 flynedd yn ôl
(gorffen)
 
===Dyn neu Sgwarnog y Lleuad===
Coel sy'n gyffredin drwy wledydd [[Ewrop]] yw y gallwch weld llun ar wyneb y lleuad, llun o [[Hen ŵr y lleuad|hen ŵr]] yn cario baich o goed ar ei ysgwydd ac mai wedi ei alltudio yno yr oedd o am hel priciau tân ar y Sul! Arferid dweud hyn yng Nghymru tan yn ddiweddar, yn enwedig i blant. Ond yn yr [[India]], [[Tsieina]], [[Japan]], a [[De Affrica]] [[sgwarnog]] neu [[Cwningen|wningen]] a welir. Gwningen hefyd geir yn ysgrif-luniau'r [[Aztec]] ym [[Mecsico]] i bortreadu'r lleuad. Cysylltir y sgwarnog â duwies y lleuad Geltaidd. Efallai bod adlais o'r cyswllt hwnnw yn yr hen stori am [[Melangell]] yn rhoi lloches i'r sgwarnog rhag helgwn y tywysog [[Brochfael]] ym [[Maldwyn]]?
 
{{Nodyn:Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
523

golygiad