Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brechdan"

Ychwanegwyd 563 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
No edit summary
Mae '''brechdan''' yn fwyd y gellir ei fwyta heb orfod aros am bryd mwy ffurfiol. Gall yr enw gyfeirio at naill ai tafell o [[bara|fara]] neu nifer o dafelli gyda bwyd mwy blasus rhyngddynt. Gellir sôn am ''frechdan'' i olygu sleisen/tafell o fara menyn blaen. Os taenir rhywbeth ar frechdan blaen, cyfeirir at ''frechdan jam'', ''brechdan fêl'', ''brechdan [[Marmite]]'' ac ati. Gellir defnyddio tafelli o dorth fara brown neu wyn.
 
==Etymoleg==
Er i'r Saeson honni i'r Iarll Sandwich ddyfeisio'r frechdan, mae iddo hanes llawer hŷn, yn sicr yn y Gymraeg.
 
Yn ôl [[Geiriadur Prifysgol Cymru]] daw'r gair "brechdan" o'r gair [[Gwyddeleg|Wyddeleg]], ''brechtán'' yn golygu menyn neu saim ayyb.
 
Daw'r cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf i'r gair o tua 1400;
:''kymer vara arall, a chud bob wyneb y’r bara ac emenyn, ac ysgriuenna y wers honn ym pob wyneb y’r vrechdan honno a ro y’r ki".<ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html</ref>
 
==Defnydd o'r Brechdan==
Y defnydd mwyaf cyffredin o'r gair, fodd bynnag, yn cyfeirio at ddwy dafell o fara, yn frown neu'n wyn, (yn arferol wedi cael [[menyn]] neu daeniad arall wedi taenu arnynt) gyda bwyd blasus rhngddynt. Ymysg y llenwadau mwyaf poblogaidd mai ham, wŷ wedi stwnsio gyda [[mayonnaisse]], [[eog]], [[caws]] gyda (neu heb) [[siytni]]/[[catwad]], [[salad]] plaen, [[corgimychiaid]], neu diwna. Dros y blynyddoedd mae mathau mwy egsotig wedi dod i ffasiwn, megis [[cyw iar coroni]], [[cyw tikka]] a llysiau rhôst. Mae rhai pobl yn hoffi brechdan fwy melys gyda jam, mêl, [[menyn cnau]] neu fanana wedi'i stwnsio ymysg y ffefrynnau. Mae rhai mannau bwyta'n ychwanegu trydedd tafell i'r frechdan ac ail lenwad, a elwir y frechdan wedyn yn ''frechdan glwb'' neu ''frechdan ddwbl''.
 
 
Gellir hefyd defnyddio'r gair ''brechdan'' yn y dywediad ''teimlo fel bechdan'', sef teimlo'n wan a di-egni.
 
==Dolenni==
 
==Cyfeiriadau==
 
[[Categori:Bwyd a diod yn y Deyrnas Unedig]]