Brechdan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 11:
 
==Defnydd o'r Brechdan==
Y defnydd mwyaf cyffredin o'r gair, fodd bynnag, yn cyfeirio at ddwy dafell o fara, yn frown neu'n wyn, (yn arferol wedi cael [[menyn]] neu daeniad arall wedi taenu arnynt) gyda bwyd blasus rhngddynt. Ymysg y llenwadau mwyaf poblogaidd mai ham, wŷ wedi stwnsio gyda [[mayonnaise]], [[eog]], [[caws]] gyda (neu heb) [[siytni]]/[[catwad]], [[salad]] plaen, [[corgimwch|corgimychiaid]], neu diwna. Dros y blynyddoedd mae mathau mwy egsotig wedi dod i ffasiwn, megis [[cyw iar coroni]], [[cyw tikka]] a llysiau rhôst. Mae rhai pobl yn hoffi brechdan fwy melys gyda jam, mêl, [[Menyn cnau mwnci|menyn cnau mwnci]] neu fanana wedi'i stwnsio ymysg y ffefrynnau. Mae rhai mannau bwyta'n ychwanegu trydedd tafell i'r frechdan ac ail lenwad, a elwir y frechdan wedyn yn ''frechdan glwb'' neu ''frechdan ddwbl''.
 
Wedi gwneud y frechdan, arferir ei thorri ar ei hanner o gornel i gornel unwaith neu ddwy, ac ystyrir ei fod yn fwy crand torri'r crystiau i ffwrdd.