Nomad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 57 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q128393 (translate me)
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:Prokudin-Gorskii-18.jpg|bawd|de|Nomadiaid [[Cirgisiaid|Cirgisaidd]] ar [[stepdir]]oedd [[Ymerodraeth Rwsia]], tua 1910]]
[[Cymuned]]au [[bod dynol|dynol]] yw '''nomadiaid''' sydd yn symud o un lle i'r llall yn hytrach na [[cyfanheddu|chyfanheddu]] mewn un man yn arhosol. Mae rhyw 30-40 miliwn o nomadiaid yn y byd.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.newint.org/issue266/facts.htm |gwaith=[[New Internationalist]] |teitl=Nomads - The Facts }}</ref> Dosbarthir diwylliannau nomadig yn dri chategori: [[helwyr-gasglwyr]], sydd yn byw ar [[helwriaeth]] a phlanhigion gwyllt; [[bugeilyddiaeth|nomadiaid bugeiliol]], sydd yn symud â [[da byw]]; a nomadiaid peripatetig, sydd yn ymarfer [[crefft]] neu'n [[masnach|fasnachu]].
 
== Helwyr-gasglwyr ==
Mae nifer o grwpiau ethnig bychain sydd yn byw mewn amgylchedd caled yn chwilota am lysiau a ffrwythau ac yn hela anifeiliaid, yn enwedig mamaliaid bychain a physgod, wrth iddynt grwydro. Yn eu plith mae [[Brodorion Awstralia]], y [[San]] (pobl y prysglwyni) yn y [[Kalahari]], y [[pigmi|pigmïaid]] yng ngoedwigoedd glaw [[y Congo]], ac ambell lwyth o'r [[Americanwyr Brodorol]] a'r [[Inuit]].
 
== Bugeiliaid ==
Mae nomadiad bugeiliol yn cadw anifeiliaid, megis defaid a gwartheg, am eu [[cig]] a'u [[llaeth]], eu crwyn a'u blew. Maent yn crwydro ar laswelltiroedd sych, gan symud o un borfa i'r llall, ac yn byw gan amlaf mewn [[pabell|pebyll]]. Ni ellir tyfu [[cnwd|cnydau]] yn y fath dir. Mae rhai o nomadiaid yr anial yn cadw [[camel]]od, a'r [[Sami]] yn [[y Lapdir]] yn symud ar yr eira gyda'u [[carw Llychlyn|ceirw]].
 
== Nomadiaid peripatetig ==
Enw ar yr amryw o grwpiau ethnig a chymdeithasol sydd yn ymgynnal eu hunain drwy ymarfer crefftau neu fasnachu â chymunedau sefydlog. Yn ogystal â phobloedd niferus megis y [[Roma]], rhoddir yr enw hefyd ar gymunedau bychain o weithwyr ymfudol, er enghraifft y [[tincer]]iaid ym Mhrydain ac Iwerddon.
 
== Ffyrdd hanner-grwydrol o fyw ==
Ffordd o fywoliaeth fugeiliol sy'n nomadaidd i raddau yw [[trawstrefa]] a nodweddir gan symud da byw yn [[Tymor|dymhorol]] i ardal arall. Y ffurf arferol yw mudo i diroedd pori mynyddig yn y tymhorau cynnes ac i symud i diroedd isel yn ystod gweddill y flwyddyn. Y prif gwahaniaeth rhwng trawstrefa a bugeilyddiaeth nomadaidd yw'r trigfannau sefydlog sydd gan amaethwyr sy'n trawstrefa. Enghraifft o gyfundrefn drawstrefa ydy arfer y Cymry o symud rhwng yr [[hafod]] ar y mynydd yn yr haf a'r [[hendre]] ar lawr gwlad yn y gaeaf.
 
== Pobloedd nomadaidd ==
=== Roma ===
{{prif|Roma}}
Pobl nomadaidd sy'n tarddu o'r [[India]] yw'r Roma neu'r Romani. Adnabyddir yn draddodiadol gan yr enw [[Sipsiwn]], ond term a roddir arnynt gan eraill yw hwnnw a gall hefyd cyfeirio at grwpiau nomadaidd eraill. Mae'n bosib bod y Roma yn perthyn i'r Dom neu i'r cast Indiaidd Domba. Datblygodd yr iaith [[Romani (iaith)|Romani]] rhywbryd ar ôl 500 CC yng nghanolbarth India. Dechreuodd y Roma fudo i'r gogledd tuag at [[Cashmir|Gashmir]] cyn 500 OC, ond arhosodd yn [[is-gyfandir India]] tan tua'r 9g. Mudodd yna i'r gorllewin gan ymsefydlu yng ngorllewin [[Anatolia]] ac yn hwyrach ar draws [[Ewrop]], ac erbyn heddiw ar draws y byd. Bu'r Roma yn dioddef rhagfarn ac erledigaeth trwy gydol eu hoes, gan gynnwys [[caethwasiaeth]] yn Nwyrain Ewrop, pogromau, ac [[hil-laddiad]] yn [[yr Holocost]].
 
=== Sipsiwn eraill yn Ewrop ===
Nomadiaid [[Ewrop]]eaidd o [[Canolbarth Ewrop|Ganolbarth Ewrop]], yn bennaf y gwledydd [[Almaeneg]], ydy'r [[Jenische]]. Maent yn byw yn [[yr Almaen]], [[Awstria]], [[y Swistir]], a rhannau o [[Ffrainc]]. Daw [[Teithwyr Gwyddelig]] o [[Iwerddon]], a mae nifer ohonynt yn byw yn y wlad honno ac ym [[Prydain|Mhrydain]].
 
=== Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol ===
Pobl Arabaidd nomadaidd sydd yn byw yn niffeithwch a lled-anialdiroedd [[Gogledd Affrica]] a'r [[Dwyrain Canol]] yw'r [[Bedowiniaid]]. Cyrhaeddant Gogledd Affrica yn sgil gorchfygiad yr ardal gan yr Arabiaid yn yr 8g. Cedwir defaid, geifr, camelod, ac weithiau gwartheg ganddynt. Mae'n bosib iddynt plannu cnydau ar hyd y llwybrau mudo a ddefnyddir amlaf, a'u cynaeafu ar y daith yn ôl. Maent yn masnachu â chymunedau sefydlog.
 
Grŵp ethnig sy'n byw yng ngorllewin y [[Sahara]] yw'r [[Twareg]], sydd yn draddodiado yn nomadiaid sydd yn byw trwy gadw anifeiliaid. Bugeilwyr yn nwyrain y Sahara yw'r [[Bejaid]] sy'n byw ar laeth, menyn a chig a gynhyrchir gan eu gwartheg a'u camelod.
 
=== Canolbarth a Dwyrain Asia ===
Roedd nifer o bobloedd hynafol [[Canolbarth Asia]] yn nomadiaid, ac o'r rhanbarth honno daeth y bobloedd Dyrcig o [[Tyrcestan|Dyrcestan]] i [[Twrci|Dwrci]]. I'r gogledd o [[Tsieina]] yn [[Dwyrain Asia|Nwyrain Asia]] daeth y [[Mongolwyr]], yr ysbeilwyr a'r ymosodwyr a orchfygasant y mwyafrif o [[Ewrasia]] yn [[yr Oesoedd Canol]]. O'r ardal honno hefyd daeth y [[Tartariaid]], a drosant yn [[Islam|Fwslimiaid]] ar eu ffordd i'r India ac Ewrop.
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 7 ⟶ 35:
==Gweler hefyd==
* [[Bywyd crwydrol]]
* [[Jenische]]
* [[Sipsiwn]]
 
[[Categori:Nomadiaid| ]]