Brechdan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwallau teipio
Llinell 21:
Y frechdanau cyntaf oedd tafelli o gig eidion wedi'i halltu rhwng dwy dafell o dôst. Dywedir mai 4ydd Iarll Sandwich a grëodd y frechdan gyntaf er mwyn cario ymlaen gyda'i ddyletswyddau milwrol wrth fwyta, a dyna a roddodd yr enw Saesneg i'r saig - er mai rhai yn honni mai bwyta rhywbeth nad oedd yn ei orfodi i adael bwrdd gamblo oedd ei arfer - a phobl eraill wedyn yn ordro "run peth ag y mae Iarll Sandwich yn ei fwyta"!
 
Mae'r iaith [[Ffrangeg]] wedi mabwysiadu'r gair i ddisgrifio darn o ffon fara Ffrengig wedi ei sleisio trwy ei chanol, gyda menyn a naill ai ham neu gaws rhwng y ddau hanner. Gelwir hwn ''un sandwich'' (gyda'r 'w' yn cael ei ynghanu fel y 'f' Cymraeg). Dyna, ynghyd â [[croque Monsieur]] yw'r bwydydd sydd fel araferarfer ar gael mewn bariau cyffredin yn Ffrainc.
 
Yng Nghymru, cedwir y gair ''sandwich'', a ynghenir fel ''sangwidj'' i ddisgrifio cacel felen neu gacen sbwng siocled gyda jam neu hufen yn ei chanol.