Afon Cefni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
eginyn
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:AfonCefni.jpg|200px|bawd|Afon Cefni yn llifo trwy Langefni]]
Mae '''Afon Cefni''' yn un o'r [[afon]]ydd pwysicaf ar [[Ynys Môn]], gogledd [[Cymru]]. Ei hyd yw 16.9 km (11 milltir).
 
Mae Afon Cefni yn tarddu i'r gogledd o bentref [[Bodffordd]] yng nghanol yr ynys, a gerllaw Bodffordd mae'n llifo i mewn i [[Llyn Cefni|Lyn Cefni]], cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Wedi gadael y llyn, mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain i gyfeiriad [[Llangefni]], lle mae'n llifo trwy ganol y dref. Mae wedyn yn troi tua'r gorllewin ac yn llifo odditan ffordd yr [[A55]] cyn llifo trwy [[Cors Ddyga|Gors Ddyga]]. Ym mhentref [[Malltraeth (pentref)|Malltraeth]] mae'n pasio trwy lifddorau yn rhan ogleddol y cob i gyrraedd y môr.