Daniel Rowland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: sv:Daniel Rowland |
adran newydd, cat. dyfnach |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Daniel Rowland.jpg|bawd|200px|Daniel Rowland]]
Roedd '''Daniel Rowland, Llangeitho''' ([[1713]] - [[1790]]) yn un o arweinwyr y diwygiad [[Methodistiaeth|Methodistaidd]] yng Nghymru yn y [[18fed ganrif|ddeunawfed ganrif]], ynghyd â [[William Williams]] a [[Howel Harris]]. Cafodd droedigaeth wrth wrando ar [[Griffith Jones]] tua [[1735]].
==Hanes==
Treuliodd y rhan fwya o'i fywyd yn giwrad ym [[plwyf|mhlwyfi]] [[Nantcwnlle]] a [[Llangeitho]], [[Ceredigion]]. Cydnabyddwyd ef fel pregethwr ac fe drodd e Langeitho yn ganolfan i [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Fethodistiaeth Galfinaidd yng Nghymru]].
Llinell 8:
Roedd ei bregethau cynnar yn adnabyddus fel rhai dychrynllyd, am eu bod yn sôn cymaint am [[Dydd y Farn|Farn]] [[Duw]] ynddynt. Ond wrth aeddfedu, rhoddai fwy o bwyslais ar y [[Gwaredigaeth|waredigaeth]] ar y Groes. Ystyrid ei ddiwinyddiaeth a'i gymeriad yn fwy cyson a sefydlog na'i gyfaill [[Howel Harris]] yn ystod y diwygiad.
"Dros [[y Mynydd Bach]]" y byddai pererinion Anghydffurfiol o mor bell i'r gogledd ag [[Arfon]] a [[Llŷn]] yn dod i wrando pregethu Daniel Rowland yn [[Llangeitho]]. Roedd ffynnon ar lethrau'r Mynydd tua dwy filltir o Langeitho lle byddent yn ymgynnull i gael lluniaeth, diod a gorffwys ar ôl teithio trwy'r nos dros y Mynydd. Byddent yn dod o [[Sir Gaernarfon]] bob ail fis gan hurio cychod pysgota o [[Aberdaron]], [[Abersoch]], [[Pwllheli]] neu [[Porthmadog|Borthmadog]], i [[Aberystwyth]], gan gychwyn i'w dait dydd Gwener. Ar y Sadwrn cerddent o Aber i Langeitho dros y Mynydd Bach a dychwelyd yr un ffordd nos Sul.<ref>Henry Hughes, ''Trefecca, Llangeitho a'r Bala'' (Caernarfon, 1896), tud. 29.</ref>
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
==Llyfryddiaeth==
*D. J. Odwyn Jones, ''Cofiant Daniel Rowland'' (1938)
[[Category:
[[Category:
[[Categori:Pregethwyr Cymreig]]
[[Category:
[[Category:Ymneilltuaeth yng Nghymru]]
[[en:Daniel Rowland]]
|