Y Dywysoges Siwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso ac ehangu |
|||
Llinell 5:
'''Y Dywysoges Siwan''' ([[1195]]-[[1237]]), merch ordderch y Brenin [[John o Loegr]], oedd gwraig [[Llywelyn Fawr]], [[Tywysog Cymru]].
==Hanes==
Priododd Lywelyn Fawr yn [[1205]] pan nad oedd hi ond deng mlwydd oed. Priodas wleidyddol ydoedd, yn sêl ar y cytundeb a wnaed rhwng Llywelyn a'r brenin John yn [[1204]]. Chwareodd Siwan rôl bwysig yn y trafodaethau diplomyddol cyfrwng Llywelyn a John, er enghraifft pan aeth i weld ei thad ar ran y tywysog yn [[1211]], a roddai gyngor buddiol iddo. Bu'n cynnal trafodaethau â'i hanner brawd [[Harri III o Loegr|Harri]] yn [[1225]], [[1228]] a [[1232]] yn ogystal.▼
===Gwraig a chyngorwraig===
▲Priododd Lywelyn Fawr yn [[1205]] pan nad oedd hi ond deng mlwydd oed. Priodas wleidyddol ydoedd, yn sêl ar y cytundeb a wnaed rhwng Llywelyn a'r brenin John yn [[1204]]. Chwareodd Siwan rôl bwysig yn y trafodaethau diplomyddol cyfrwng Llywelyn a John, er enghraifft pan aeth i weld ei thad ar ran y tywysog yn [[1211]], a roddai gyngor buddiol iddo. Bu'n cynnal trafodaethau â'i hanner brawd [[Harri III o Loegr|Harri]] (Harri III) yn [[1225]], [[1228]] a [[1232]] yn ogystal.
===Carwriaeth===
Cafodd garwriaeth â [[Gwilym Brewys]] (William de Braose), arglwydd [[Y Normaniaid|Normanaidd]] o Frycheiniog, yn [[1230]]. Fe'i carcharwyd gan Lywelyn am gyfnod byr (hynny yw fe'i cadwyd dan wyliadwriaeth) fel cosb am hynny ac fe grogwyd ganddo yn y diwedd. Yn ôl traddodiad lleol, o flaen prif lys y tywysog yn [[Abergwyngregin]] y crogwyd Brewys, ond ceir traddodiad arall sy'n lleoli'r crogi yng Nghrogen, ger [[Y Bala]]. Cyfeiria ''[[Brut y Tywysogion]]'' at y digwyddiad ond heb nodi'r lleoliad. Gyrrod y weithred ias o ddychryn drwy Gymru, Lloegr a Ffrainc am fod un o 'flodau marchogion y Norman' wedi cael ei grogi yng ngolau dydd o flaen torf o bobl gyffredin. Mae'n arwyddocaol nad ymyrodd frenin Lloegr, cymaint oedd awdurdod Llywelyn Fawr.
Mae'r hanesyn am berthynas Siwan â Gwilym Brewys yn sail i ddrama fydryddol enwog [[Saunders Lewis]], ''[[Siwan (drama)|Siwan]]''.
===Cymodi===
O fewn tua blwyddyn fe ymddengys ei bod wedi cymodi'n llwyr â Llywelyn. Cynghorodd ei gŵr yn 1232 a bu'n llysgennad iddo eto yn llys ei frawd, Harri III.
== Plant ==
*[[Dafydd ap Llywelyn|Dafydd]] (c. 1215-1246): priodi [[Isabella de Braose]]
*[[Gwladus Ddu]]
*Margaret: priodi Syr John de Braose, ŵyr Gwilym Brewys
*Helen (1207-1253)
==Gweler hefyd==
*''[[Siwan (drama)|Siwan]]'', drama Saunders Lewis
|