Y Dywysoges Siwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso ac ehangu
Llinell 11:
===Carwriaeth===
Cafodd garwriaeth â [[Gwilym Brewys]] (William de Braose), arglwydd [[Y Normaniaid|Normanaidd]] o Frycheiniog, yn [[1230]]. Fe'i carcharwyd gan Lywelyn am gyfnod byr (hynny yw fe'i cadwyd dan wyliadwriaeth) fel cosb am hynny ac fe grogwyd ganddo yn y diwedd. Yn ôl traddodiad lleol, o flaen prif lys y tywysog yn [[Abergwyngregin]] y crogwyd Brewys, ond ceir traddodiad arall sy'n lleoli'r crogi yng Nghrogen, ger [[Y Bala]]. Cyfeiria ''[[Brut y Tywysogion]]'' at y digwyddiad ond heb nodi'r lleoliad. Gyrrod y weithred ias o ddychryn drwy Gymru, Lloegr a Ffrainc am fod un o 'flodau marchogion y Norman' wedi cael ei grogi yng ngolau dydd o flaen torf o bobl gyffredin. Mae'n arwyddocaol nad ymyrodd frenin Lloegr, cymaint oedd awdurdod Llywelyn Fawr.
 
Cadwyd hanes carwriaeth Siwan a Gwilym Brewys ar gof gan y werin a cheir traddodiad a rhigwm amdano. Yn ôl yr hanes, crogwyd Gwilym heb wybod i Siwan. Daeth un o weision neu filwyr y tywysog ati yn ei stafell a gofyn iddi,
 
::Dicyn, docyn, gwraig Llywelyn,
::Beth a roi di am weled Gwilym?
 
Atebodd Siwan,
 
::Cymru, Lloegr a Llywelyn
::A rown i gyd am weled Gwilym.
 
Yna fe hebryngwyd hi i ffenestr a dangoswyd iddi ei gordderchwr ynghrog wrth gangen o goeden.<ref>William Williams, ''Prydnawngwaith y Cymry'' (1822). Dyma'r cofnod cynharaf o'r traddodiad llafar lleol hwn, fe ymddengys.</ref>
 
Mae'r hanesyn am berthynas Siwan â Gwilym Brewys yn sail i ddrama fydryddol enwog [[Saunders Lewis]], ''[[Siwan (drama)|Siwan]]''.