Chemtou: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 5ed ganrif CC5 CC using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: feddianu → feddiannu using AWB
Llinell 3:
Mae '''Chemtou''' neu '''Chimtou''' yn safle archaeolegol yn [[Jendouba (talaith)|nhalaith Jendouba]] yng ngogledd-orllewin [[Tiwnisia]], a fu gynt yn rhan o [[Affrica (talaith Rufeinig)|dalaith Rufeinig Affrica]]. Mae olion y ''Simitthu'' hynafol (''Simitthus'' yn y cyfnod [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]]) yn gorwedd 20 km i'r gorllewin o ddinas [[Jendouba]], yn agos i'r ffin ag [[Algeria]], ar groesffordd dwy ffordd hynafol pwysig : un ohonynt yn cysylltu [[Carthage]] a [[Hippo Regius]] ([[Annaba]] yn Algeria heddiw), a'r llall yn cysylltu Tabraca ([[Tabarka]] heddiw) a Sicca Veneria ([[El Kef]] heddiw).
 
Sefydlwyd y ddinas ar ôl i ddyfryn [[Medjerda]] gael ei feddianufeddiannu gan y [[Numidia]]id. Mae'n debyg ei bod yn bodoli eisoes yn y [[5 CC]]. Tyfodd yn raddol oherwydd ei lleoliad strategol ar groesffordd llwybrau masnach. Yn nes ymlaen, cododd [[Micipsa]] (149-118 CC) deml er cof am ei fab [[Massinissa]], brenin [[Numidia]]; defnyddiodd gerrig o'r [[chwarel]] leol at y gwaith. Adnabyddid y [[marmor]] arbennig o chwarel Chemtou fel "marmor Numidiaidd" ([[Lladin]]: ''marmor numisticus'') gan y Rhufeiniaid. Mae o ystod o liwiau delicat sy'n amrywio o felyn i liw rhosyn. Cafodd ei ddefnyddio i godi sawl adeilad pwysig yn Chemtou a'r cylch (temlau a filas yn arbennig), ond roedd yn cael ei allforio i leoedd eraill yn ogystal, hyd at gyfnod yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]]. Ar ôl i Rufain oresgyn [[Carthage]] rhoddwyd yr enw swyddogol ''Colonia Iulia Augusta Numidica Simitthu'' ar y ddinas.
 
Mae'r cloddio gan archaeolegwyr o Diwnisia a'r Almaen wedi darganfod olion sylweddol o'r cyfnodau Numidaidd a Rhufeinig, ynghyd â llwybr ffordd arbennig yn rhedeg o Chemtou i Tabarka ar yr arfordir oedd yn caniatau allforio'r marmor. Mae'r adfeilion a welir ar y safle heddiw yn nodweddiadol o ddinasoedd Rhufeinig y cyfnod ac yn cynnwys temlau, baddondai, pont dŵr, [[amffitheatr]], fforwm, tai preifat a thai ar gyfer y gweithwyr yn y chwarel gerllaw lle amcangyfrir fod hyd at fil o ddynion yn gweithio.