Leeds: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Dinas yng ngogledd [[Lloegr]] yw '''Leeds'''. Saif ar lan [[afon Aire]] yng [[Gorllewin Swydd Efrog|Ngorllewin Swydd Efrog]] gyda [[camlas|chamlesi]] hanesyddol yn ei chysylltu â [[Lerpwl]] a [[Goole]]. Sefydlwyd [[Prifysgol Leeds]] yno yn 1904. Amcangyfrifwyd yn 2007 fod y boblogaeth yn 761,100.
 
Yn yr Oesoedd Canol cynnar roedd teyrnas Elfed - a gyfeirir yn aml fel Elmet - yn gysylltiedig aâ'r rhan yma o Swydd Efrog. Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mercia.
Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").