Liza Minnelli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
[[Cantores]] ac [[actores]] ffilm, llwyfan a theledu ydy '''Liza May Minnelli''' (ganed [[12 Mawrth]], [[1946]]). Ei mam oedd yr actores a'r gantores [[Judy Garland]] a'i thad oedd y [[cyfarwyddwr ffilm]] [[Vincente Minnelli]].
 
Wedi iddi astudio yn y "New York High School of Performing Arts" a'r "Stiwdio Herbert Berghof", dechreuodd Minnelli dderbyn rhannau mewn [[sioe gerdd|sioeau cerdd]] fel ''[[Best Foot Forward]]'' a ''[[Flora the Red Menace]]''. Derbyniodd [[Gwobr Theatre World]] am "Best Foot Forward" ym 1963 a [[Gwobr Tony]] ym 1965 am "Flora the Red Menace". Roedd Minnelli eisoes wedi sefydlu'i hun fel cantores [[clwb nos|clybiau nos]], ac fel actores cymeriad yn y ffilmiau ''[[The Sterile Cuckoo]]'' a ''[[Tell Me That You Love Me, Junie Moon]]''. Serch hynny, y rôl a ddaeth a fwyaf o amlygrwydd iddi oedd fel Sally Bowles yn y fersiwn ffilm o'r sioe gerdd [[theatr Broadway|Broadway]] ''[[Cabaret (sioe gerdd)|Cabaret]]'' ym 1972. Derbyniodd [[Gwobrau'r Academi|Wobr yr Academi]] am yr Actores Orau am ei rhan yn y ffilm hon.
 
Er i brosiectau megis ''[[Lucky Lady]], [[A Matter of Time]]'' a ''[[New York, New York]]'' gael eu beirniadau, ystyriwyd Minnelli yn un o ddiddanwyr mwyaf amryddawn a phoblogaidd ar y teledu, gan ymddamgos ar raglenni fel ''[[Liza with a Z]]'' ym 1972, ac ar lwyfan mewn cynhyrchiadau Broadway fel "The Act" a "The Rink". O ddiwedd y [[1970au]] a dechrau'r [[1980au]], rhoddwyd sylw mawr yn y wasg i'r phroblemau iechyd, alcoholiaeth a'i chamdriniaeth o [[cyffur|gyffuriau]]. Serch hynny, ail-sefydlwyd ei gyrfa gyda chyfres o deithiau cyngherddol fel "Liza Minnelli: At Carnegie Hall", "Frank, Liza & Sammy: The Ultimate Event" a "Liza Live from Radio City Music Hall".