Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dinas Efrog Newydd"

Lleihawyd o 24 beit ,  2 flynedd yn ôl
(Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf using AWB)
Yn ystod y [[1960au]], dioddefodd Efrog Newydd o broblemau economaidd, cynnydd mewn trais a gwrthdaro [[hiliaeth|hiliol]], a gyrhaeddodd uchafbwynt yn y [[1970au]]. Gwellodd sefyllfa economaidd y ddinas yn y [[1980au]] wrth i'r diwydiant ariannol ail-sefydlu ei hun. Erbyn y [[1990au]] roedd gwrthdaro hiliol wedi lleihau, cyfradd troseddau wedi gostwng yn sylweddol a thon newydd o [[mewnlifiad|fewnfudwyr]] wedi cyrraedd o [[Asia]] ac [[America Ladin]]. Ymddangosodd sectorau newydd, megis [[Dyffryn Silicon]], yn economi'r ddinas a chyrhaeddodd poblogaeth y ddinas record newydd yng [[cyfrifiad|nghyfrifiad]] [[2000]].
 
[[Delwedd:LOCNorth Lowerface Manhattansouth Newtower Yorkafter Cityplane Worldstrike Trade Center August 20019-11.jpg|bawd|180px|GolygfaMae ohedfan DdinasUnited EfrogAirlines Newydd175 cynyn cwympo i [[YmosodiadauGanolfan 11Masnach Mediy 2001|ymosodiadau'rByd]] 11egar o11 FediMedi, 2001]]]] Ar yr [[11 Medi|11eg o Fedi]], [[2001]], bu ymosodiad terfysgol ar y ddinas pan drawodd dwy awyren [[Canolfan Fasnach y Byd|Ganolfan Fasnach y Byd]]. Bu farw bron i 3,000 o bobl yn yr ymosodiad. Bwriedir adeiladu Canolfan Fasnach y Byd newydd (a adwaenid yn flaenorol fel y Tŵr Rhyddid), ynghŷd â chofeb a thri tŵr newydd o swyddfeydd ar y safle, a dylai fod yn gyflawn erbyn 2013. Ar y [[19 Rhagfyr|19eg o Ragfyr]], [[2006]], gosodwyd y colofnau [[dur]] cyntaf yn sylfeini'r adeilad. Mae tri adeilad uchel arall wedi'u cynllunio ar gyfer y safle ar hyd Stryd Greenwich, a byddant yn amgylchynu Cofeb Canolfan Fasnach y Byd, sydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Bydd y safle hefyd yn gartref i amgueddfa a fydd yn olrhain hanes y safle.
 
== Daearyddiaeth ==