Red Deer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Dinas yng nghanolbarth [[Alberta]], [[Canada]] yw '''Red Deer'''. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng [[Calgary]] ac [[Edmonton]], a dyma drydedd ddinas fwyaf Alberta ar ôl y dinasoedd hynny. Fe'i hamgylchynir gan Swydd Red Deer. Poblogaeth: 89,891 (2009).
 
Gorwedd dinas Red Deer ar lan [[Afon Red Deer]] mewn ardal o fryniau coediog a nodweddir gan goedwigoedd [[aspen]] a meysydd agored lle mae'r economi yn seiliedig ar gynhyrchu [[olew]] a [[grawnfwyd]] a magu [[gwartheg]]. Dosberthir cynhyrchion y diwydiannau hyn o Red Deer.
 
Bu'r ardal yn gartref i bobloedd brodorol cyn dyfodiad yr Ewropeaid cyntaf yn y 18fed ganrif. Sefydlwyd gwersyll masnachu yno yn 1882, a gymerodd ei enw ar ôl yr afon sy'n llifo trwy'r ardal, a daeth yn dref yn 1901 ac yn ddinas yn 1913.
 
==Dolen allanol==
Llinell 12:
 
[[Categori:Dinasoedd Alberta]]
[[Categori:Sefydliadau 1882]]
 
{{eginyn Canada}}