Menter Iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tynnu cyfeiriad at fwrdd yr iaith yn ariannu'r mentrau
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
Corff neu gyfundrefn seiliedig ar y gymuned sy'n gweithio i godi proffiliau yr iaith [[Gymraeg]] o fewn bro leol yw '''Menter Iaith'''. Mae Mentrau Iaith yn cydweithio gydag unigolion, cyrff a busnesau lleol i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith yn y fro. Mae pob Menter Iaith yn derbyn cymorthdal sylfaenol gan [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]] ynghyd â chefnogaeth ariannol gan gyrff eraill, e.e. awdurdodau lleol.
 
Y Fenter Iaith gyntaf i gael ei sefydlu oedd [[Menter Cwm Gwendraeth]] yn ardal [[Cwm Gwendraeth]], [[Sir Gaerfyrddin]], yn 1991. Fel rheol, mae Menter Iaith yn gweithredu o fewn ardal a ddiffinir gan yr [[Siroedd Cymru|awdurdod lleol]], ac eithrio yn achos Sir Gaerfyrddin a [[Powys|Phowys]] lle ceir nifer o Fentrau Iaith llai sy'n gweithio ar lefel mwy lleol, a [[Casnewydd|Chasnewydd]] a [[Gwynedd]], sydd heb Fentrau Iaith ar hyn o bryd. Yng Nghasnewydd ceir partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a Bwrdd yr Iaith a elwir 'Cymraeg Casnewydd', sy'n gweithredu yn yr un modd â Menter Iaith.