Hilary Jenkinson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Heulfryn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Heulfryn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Sir Charles Hilary Jenkinson.jpg|bawd|de|300px]]
 
{{Gwybodlen person/Wicidata
| fetchwikidata=ALL
Llinell 15 ⟶ 17:
* Bod egwyddor tarddiad (sef ''provenance'') yn hollbwysig. Rhaid medru olrain cadwraeth/ceidwaid dogfen yn ol yn ddi-fwlch at ei chreawdwr er mwyn iddi gadw ei dibynadwyedd fel tystiolaeth ddiduedd.
* Rhaid parchu perthnasedd a pherthynas rhwng un ddogfen a'r lleill a grëwyd neu a gadwyd gyda hi. Daw'r cysyniad hwn o arfer archifdai yn Ffrainc (lle 'roedd y proffesiwn wedi ei ddiffinio gan yr ''[[Ecóle des Chartes]]'', ac fe'i elwir yn ''le respect pour les fonds''. ''Fonds'' yw'r enw yn Ffrangeg na ellir ei gyfieithu'n iawn am grwp o ddogfennau gyda pherthnasedd organig o ran eu creu neu eu cadw.
* Rhaid i archifydd fod yn amhleidiol, gan dderbyn pa archifau bynnag y rhoddir iddo eu cadw, a heb ddewis a dethol ymysg y deunydd, na rhoi ffafriaeth i unrhyw farn neu agwedd wrth eu cadw a'u rhestru. Yn ei eiriau ef, "nid hanesydd mo'r archifydd".<ref>Gwybodaeth bersonol; Hilary Jenkinson, ''A Manual of Archive Administration'', (Lund HyumphriesHumphries, 1937),''passim''.</ref>
 
Erbyn hyn mae theori archifol ym Mhrydain wedi datblygu dan ddylanwad archifyddion damcaniaethol mewn gwledydd eraill megis yr Unol Daleithiau, Canada ac, yn arbennig efallai, Awstralia. Mae ei egwyddorion yn rhai absoliwt, ac maent yn fwy addas ar gyfer archifdy gwladol neu lywodraethol, neu archiau busnes fawr. Gyda thwf archifdai lleol, mae anghenion pragmataidd a'r galw am ddefnyddio archifau, ynghyd â'r pwysau am werth am arian, diffyg lle a gofynion strategol arianwyr sefydliadau archifol o gyrff fel [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] hyd at [[archifdai sirol]] bach, wedi arwain at rai arferion mwy ymarferol er y telir sylw o hyd at egwyddorion sylfaenol Jenkinson. I ddisgrifio agweddau athronyddol neu ymarferol sy'n seiliedig ar waith Jenkinson, defnyddir yr ansoddair "Jenkinsonaidd".