Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rwsia, Cymru a'r Blaned Mawrth
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
Fel ti dwi'n tueddu i gyfrannu i'r wiki yn fympwyol braidd. Fy mhrif ddiddordebau yw llên a hanes, o Gymru hyd Siapan, gyda'r pwyslais ar y cyfnodau cynnar, ond dwi'n hoff o newid yn gwfangwbl weithiau, cyn belled mod i'n gwybod rhywfaint am y pwnc dan sylw. Dwi hefyd yn ceisio cywirio rhai o'r gwallau niferus sy'n dod i fyny a gwella rhai o'r stybiau, ond mae rhai o' nhw'n anobeithiol! Gyda llaw, wyt ti wedi gweld y stwbyn diweddaraf, [[HOYEN MATURE]]??!!!!! Be di hynny - Mawrtheg / iaith y blaned Mawrth?! Rhaid bod rhywun yn tynnu coes - neu'n anhygoel o dwp! Tybed ai "Hoywon ''Mature''" a olygir? Y cwbl mae'n ddeud ydi "RYDCH CHI WEDI 7", sydd efallai'n golygu "Rydych chi (yn medru cael perthynas hoyw yn gyfreithlon) ar ôl cyrraedd (1)7 oed". Neu efallai dim! Dim o bwys beth bynnag, jest dwi'n methu deall agwedd rhai pobl.
I ddod yn ôl at lenyddiaeth Rwseg; does gennyf ddim bwriad penodol i sgwennu llawer amdani ar hyn o bryd ond pwy a ŵyr? Rhyw ddydd... Chwedlau gwerin Rwsia, efallai? Ond lle mae dechrau ar bwnc mor anferth? A wel, nôl i chwilio am fylchau am awr neu ddwy cyn ei throi hi. Hwyl a diolch am y neges. Fôn. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 20:00, 23 Awst 2006 (UTC)
 
==Enwau lleoedd==
Pam wnest ti symud "Y Tir Newydd a Labrador" i "[[Newfoundland a Labrador]]" ac "Ynys y Tywysog Edward" i "[[Prince Edward Island]]", a newid [http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Rhestr_dinasoedd_y_Deyrnas_Unedig&diff=prev&oldid=61609 "Caerfuddai" i "Chicester"]? --[[Defnyddiwr:Adam7davies|Adam]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Adam7davies|Sgwrs]]) 10:23, 4 Medi 2006 (UTC)