Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 14:
==Enwau lleoedd==
Pam wnest ti symud "Y Tir Newydd a Labrador" i "[[Newfoundland a Labrador]]" ac "Ynys y Tywysog Edward" i "[[Prince Edward Island]]", a newid [http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Rhestr_dinasoedd_y_Deyrnas_Unedig&diff=prev&oldid=61609 "Caerfuddai" i "Chicester"]? --[[Defnyddiwr:Adam7davies|Adam]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Adam7davies|Sgwrs]]) 10:23, 4 Medi 2006 (UTC)
 
Tri rheswm:
#Yn ôl [[Wicipedia:Arddull#Enwau_lleoedd|canllawiau arddull y Wicipedia Cymraeg]], dylid dilyn yr Atlas Cymraeg Newydd. Yr hyn a geir yno am y llefydd hyn yw ''Newfoundland'', ''Prince Edward Island'' (ynghyd â'u cyfieithiadau Ffrangeg) a ''Chichester'' (dim Cymraeg, er bod yr Atlas yn defnyddio ffurf Gymraeg ar enwau lleoedd yn Lloegr ym mhob achos arall).
#Yr unig reswm a wela i dros anwybyddu'r Atlas byddai pe bai defnydd y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn groes i awgrymiadau'r Atlas. Ond mae chwiliadau Google yn cytuno mwy neu lai â'r Atlas:
#*''yn Chichester'' -wikipedia: 9 enghraifft yn eglur yn Gymraeg, ''yng Nghaerfuddai'' -wikipedai: dim
#*''yn/ar Newfoundland'' -wikipedia: 13 (gan gynnwys un gan Fwrdd yr Iaith yn cyfeirio at y dalaith fel ''Newfoundland a Labrador'': www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/download.php?id=1825.2), ''yn/ar y Tir Newydd'': dim yn cyfeirio at Newfoundland
#*mewn achos Prince Edward Island, mae'n anodd dweud: ceir dim enghreifftiau o ''yn/ar Ynys y Tywysog Edward'' na ''yn/ar Prince Edward Island''. Ceir un enghraifft o ''ar Ynys Prince Edward''. Ar gyfer ''Ynys y Tywysog Edward'' ei hun (-wikipedia), does dim enghreifftiau o gwbl; mae ''Ynys Prince Edward'' -wikipedia yn ymddangos dwywaith; wrth gwrs, mae'n amhosib gwahaniaethu rhwng ''Prince Edward Island'' ar dudalennau Cymraeg ac enghreifftiau ar dudalennau Saesneg.
#Dyw'r termau hyn ddim yn draddodiadol ar gyfer y llefydd hyn yn y Gymraeg. Wn i ddim pwy fathodd ''Caerfuddai'' ar gyfer ''Chichester'' ond dyw hi ddim yn draddodiadol (yn wahanol i enwau lleoedd eraill megis ''Caerlŷr'' a ''Caerloyw''). Bathwyd ''y Tir Newydd'' gan Bruce Griffiths yng Ngeiriadur yr Academi, ac mae canllawiau Wicipedia yn awgrymu rhoi'r flaenoriaeth i'r Atlas.
 
Felly... dwi'n gweld lle i ddadlau dros ''Ynys Prince Edward'' yn hytrach na ''Prince Edward Island''. Yn yr achosion eraill, does dim sail dros ddefnyddio'r termau wedi'u Cymreigio. Oes rhesymau 'da ti dros ffafrio'r termau Cymreigedig? [[Defnyddiwr:Daffy|Daffy]] 14:19, 4 Medi 2006 (UTC)