Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "John Lloyd-Jones"

Ychwanegwyd 27 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
BNo edit summary
Ysgolhaig a bardd oedd '''John Lloyd-Jones''' (1885 - 1956), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin [[Cymru]].
 
Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref [[Dolwyddelan]] yn [[Dyffryn Lledr|Nyffryn Lledr]], [[Sir Gaernarfon]] ([[Conwy (sir)|Sir Conwy]] heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng [[Prifysgol Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], lle bu'n un o ddigyblionddisgyblion [[John Morris-Jones]], a [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]]. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn [[Cymraeg]] a'r [[Ieithoedd Celtaidd]] yng [[Coleg y Brifysgol, Dulyn|Ngholeg y Brifysgol]], [[Dulyn]], lle denodd llu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys [[T. J. Morgan]], [[Bobi Jones]] a [[J. E. Caerwyn-Williams]].
 
Enillodd y Gadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922]] am ei [[awdl]] 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef ''Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon'' (1928) a ''Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg'' (1931-65), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi [[Cymraeg Canol]] a [[Hen Gymraeg]] a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi wyth rhan.
[[Categori:Geiriadurwyr Cymraeg]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymraeg]]
 
[[en:John Lloyd-Jones]]
 
{{eginyn Cymry}}
889

golygiad