Avignon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sw:Avignon
enwogion
Llinell 3:
Dinas yn ne-ddwyrain [[Ffrainc]] sy'n fwyaf enwog oherwydd iddi fod yn ganolfan rhai [[Pan|Pabau]] a [[Gwrth-Bab|Gwrth-Babau]] yn y Canol Oesoedd yw '''Avignon''' ([[Provençal (iaith)|Provençal]]: ''Avinhon'' neu ''Avignoun''). Hi yw prifddinas ''département'' [[Vaucluse]]. Roedd y boblogaeth yn [[2004]] yn 89,300 yn y ddinas ei hun, ac roedd 290,466 yn yr ardal ddinesig yng nghyfrifiad [[1999]].
 
==Hanes==
Saif y ddinas ar lan [[afon Rhône]], ychydig filltiroedd yn uwch na'i chymer gydag [[afon Durance]]. Sefydlwyd hi gan lwyth [[Y Celtiaid|Celtaidd]] y [[Cavares]], ac yn ddiweddarch roedd ymsefydlwyr [[Phocaea]]idd o [[Massilia]] (Marseilles heddiw) yma. Dan y Rhufeiniaid, fel Avenio, roedd yn un o ddinasoedd mwyaf llewyrchus [[Gallia Narbonensis]]. Cyhoeddodd Avignon ei hun yn weriniaeth annibynnol ar ddiwedd y [[12fed ganrif]], ond yn ystod yr ymgyrch yn erbyn yr Albigensiaid (dilynwyr athrawiaeth y [[Cathar]]), cipiwyd y ddinas ar [[13 Medi]] [[1226]] gan [[Louis VIII, brenin Ffrainc]] a legad y [[Pab]]. Gorfodwyd y ddinas i ddymchwel eu muriau.
 
Yn [[1309]], dewiswyd Avignon gan y Pab [[Clement V]] fel canolfan newydd yn lle [[Rhufain]]. Bu'r babaeth yma hyd [[1377]]. Yn ystod yr [[Ymraniad Mawr]] (1378-1415), dychwelodd y Gwrth-babau [[Gwrth-bab Clement VII|Clement VII]] and [[Gwrth-bab Bened XIII|Bened XIII]] i Avignon. Yn [[1403]], gorfodwyd Bened XIII i ffoi i [[Aragon]].
 
==Adeiladau a chofadeiladau==
Adeilad enwocaf y ddinas yw'r ''[[Palais des Papes]]'' (Palas y Pabau). Dynodwyd canol hanesyddol Avignon a'r ''Palais des Papes'' yn [[Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Ffrainc|Safle Treftadaeth y Byd]] gan [[Unesco]] yn 1995. Mae'r ddinas yn adnabyddus hefyd oherwydd y gân Ffrangeg enwog i blant, "''[[Sur le pont d'Avignon]]''".
 
==Enwogion==
*[[Olivier Messiaen]] (1908-1992), cyfansoddwr
*[[Mireille Mathieu]] (g. 1946), cantores