Pen-y-bryn, Abergwyngregyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Neb bellach yn anghytuno
Llinell 1:
[[Delwedd:Garth Celyn 1.jpg|bawd|dde|250px|Garth Celyn o hirbell.]]
Safle llys [[Teyrnas Gwynedd|Tywysogion Gwynedd]] yn [[Abergwyngregyn]] oedd '''Garth Celyn'''. Ni cheir cytundeb am ei union safle.
 
Yn wreiddiol, [[Aberffraw]] ym [[Môn]] oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys [[cantref]] [[Arllechwedd]], oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad [[Llywelyn Fawr]], a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr [[Dafydd ap Llywelyn]] a [[Llywelyn ap Gruffudd]]. Mewn effaith, er bod y tywysogion yn dal i fynd "ar gylch" ar adegau o'r flwyddyn i gynnal y llys brenhinol yn lleol, Garth Celyn yn Aber oedd safle llys [[Tywysogaeth Cymru]] annibynnol yn y 13eg ganrif.