Don Giovanni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 62:
Mae Leporello yn bygwth Don Giovanni, ond mae ei feistr yn ei dawelu gyda chynnig arian iddo (Deuawd: ''Eh via buffone'' - "Dos y ffŵl"). Mae Giovanni am hudo morwyn Donna Elvira. Mae Donna Elvira yn dod i'r ffenest ac yn gweld Leporello yng ngwisg Giovanni ac yn ei ddilyn. Tra bod hi'n dilyn Leporello mae Don Giovanni yn serenadu'r forwyn gyda'i fandolin.<ref name ="glyndebourne"/>
 
Cyn i Don Giovanni llwyddo i hudo'r forwyn mae Masetto a'i gyfeillion yn troi fyny yn chwilio am Don Giovanni er mwyn ei ladd. Gan barhau i gogio mae Leporello ydyw, mae Giovanni yn ymuno gyda'r ymgais i chwilio amdano. Mae'n llwyddo i wasgaru ffrindiau Masetto (Don Giovanni [[Aria (opera)|aria]]: ''Metà di voi qua vadano'' - " Ewch hanner ohonoch acw"), mae Don Giovanni yn ymosod ar Masetto ac yn rhedeg i ffwrdd gan chwerthin.
 
Mae Leporello yn cael ei ddal yng ngwisg ei feistr ac yn cael ei gamgymryd am Giovanni. Mae o'n cael ei fygwth gan Donna Anna a Don Ottavio ac yn ffoi am ei fywyd.