Tristan und Isolde: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 56:
===Act 2===
Mae'r Brenin March yn arwain parti hela fin nos, gan adael Esyllt a Branwen ar eu pen eu hunain yn y castell. Mae Esyllt, yn gwrando am y cyrn hela, gan gredu sawl gwaith bod y blaid hela yn ddigon pell i warantu diffodd y tan fel arwydd Trystan ei fod yn ddiogel iddo ymweld â hi ("Nicht Hörnerschall tönt so hold"). Mae Branwen yn rhybuddio Esyllt bod Melyn, un o farchogion y Brenin March, wedi gweld yr edrychiadau serchus sy'n cael eu cyfnewid rhwng Trystan ac Esyllt ac yn amau eu bod mewn cariad ("Ein Einz'ger war's, ich achtet 'es wohl"). Mae Esyllt yn credu bod Melyn yn driw i Trystan, ac yn diffodd y tân.
 
Mae'r cariadon yn cwrdd am noson o serch. Mae Branwen yn eu rhybuddio sawl gwaith bod y nos ar fin dod i ben a bod March ar fin dychwelyd ond mae ei rhybuddion yn syrthio ar glustiau byddar. Mae'r wawr yn torri ac mae Melyn yn arwain y Brenin March i ddal Trystan ac Esyllt ym mreichiau ei gilydd. Mae March wedi ei siomi'n arw gan frad Trystan ac Esyllt a gan frad Melyn o'i gyfeillgarwch i Trystan ("Mir - dies? Dies, Trystan - mir?").
Mae Melyn yn datgan mae'r rheswm am fradychu Trystan i'r brenin oedd ei fod ef hefyd mewn cariad ag Esyllt. Mae Melyn a Trystan yn ymladd, ond, ar yr adeg dyngedfennol, mae Trystan yn taflu ei gleddyf o'r neilltu ac yn caniatáu i Melyn ei anafu'n ddifrifol.
Llinell 64 ⟶ 65:
Mae Trystan yn atglafychu ac yn syrthio i ddeliriwm. Yn ei ddeliriwm mae'n clywed y bugail yn pipio can llawen i ddweud bod llong Esyllt yn y golwg. Mae o'n tynnu'r holl rwymau o'i glwyfau ac yn marw wrth i Esyllt ei gyrraedd.
 
Mae Esyllt yn [[Llesmair|llewygu]] wrth ymyl ei chariad ymadawedig ar yr yn union adeg mae cyrhaeddiad llong arall yn cael ei gyhoeddi. Mae Curwenal yn gweld Melyn, March a Branwen yn cyrraedd. Mae'n credu eu bod wedi dod i ladd Trystan ac, mewn ymgais i ddial drosto, mae'n ymosod ar Melyn. Mae March yn ceisio atal y frwydr heb lwyddiant. Mae Melyn a Curwenal yn cael eu lladd yn y frwydr. Mae March a Branwen yn cyrraedd Trystan ac Esyllt. Gan alaru dros gorff ei gyfaill mwyaf triw ("Tot denn alles!"), mae March yn esbonio bod Branwen wedi datgelu cyfrinach y cyffur cariad a'i fod wedi dod i uno'r cariadon yn hytrach na'u gwahanu (''Warum Isolde , warum mir das?''). Mae Esyllt yn deffro o'i llewyg ac yn yr [[Aria (opera)|aria]] derfynol mae'n disgrifio gweledigaeth o Trystan wedi atgyfodi ac mae hi'n syrthio'n farw.<ref name ="ENO"/>
 
==Operâu eraill am Trystan ac Esyllt==