Daily Post: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12:
gwefan= [http://www.dailypost.uk/ www.dailypost.co.uk] |
}}
[[Papur newydd]] dyddiol rhanbarthol yn yr iaith [[Saesneg]] ar gyfer [[Gogledd Cymru]] yw'r '''''Daily Post'''''. Fe'i argraffirhargraffir yn ei bencadlys yng [[Cyffordd Llandudno|Nghyffordd Llandudno]]. Rob Irvine yw'r golygydd presennol. Mae'r papur yn rhan o grŵp [[Trinity Mirror]].
 
Dechreuodd y ''Daily Post'' Cymreig fel argraffiad o'r ''Liverpool Daily Post'' ar gyfer gogledd Cymru, ond mae'n bapur ar wahân erbyn heddiw. Ar un adeg galwai'r papur ei hun yn "''the Paper for Wales''", gan gystadlu a'r ''[[Western Mail]]'' fel papur newydd dyddiol Cymreig, ond bellach ceir "''North Wales' best selling newspaper''" ar y mast ac mae'r papur yn canolbwyntio ar newyddion y gogledd, er bod adrannau ar gyfer newyddion cenedlaethol, Prydeinig a rhyngwladol yn ogystal.
 
Mae gan y papur draddodiad o gael colofnwyr dadleuol a bywiog. Yn y gorffennol ysgrifennai IorwethIorwerth Roberts ac [[Ivor Wynne Jones]] iddo. Heddiw mae'n adnabyddus am dudalennau David Banks ac Ian Parri, ill dau yn eithaf parod i godi gwrychyn ambell ddarllenydd.
 
== Y Gymraeg ==
Ers i'r ''[[Herald Cymraeg]]'' ddirwyn i ben fel papur wythnosol annibynnol, oherwydd problemau ariannol a chwymp cylchrediad, mae'n cael ei gyhoeddi yn wythnosol fel atodiad canol-y-papur yn y ''Daily Post''. Mae iddo ei olygydd ei hun, sef Tudur Huws Jones ar hyn o bryd.
 
Ar 27 Awst, 2008, lawnsiwydlansiwyd gwefan newyddion yn y Gymraeg, sef y ''Daily Post Cymraeg''. Yn ôl Rob Irvine, golygydd y ''Daily Post'',
 
<blockquote>"Mae'r ''Daily Post'' yn cefnogi twf yr iaith [[Gymraeg]]. Fe fydd y wefan yn un byrlymus a chyffrous... yn cyhoeddi straeon newyddion fel maent yn datblygu ar draws Gogledd Cymru, Prydain a thu hwnt yn Gymraeg.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', atodiad y ''Daily Post'', 27.08.08.</ref></blockquote>