Pearl Harbor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Harbour->Harbor
Martin H. (sgwrs | cyfraniadau)
dupe x2
Llinell 1:
[[delwedd:250px-Pearl_Harbor_aerial.jpg|bawd|dde|200px|Llun o'r awyr o Pearl Harbor, gydag [[Ynys Fort]] yn y canol. Lleolir [[Cofeb Arizona]] lle gwelir y dot gwyn ar ochr dde'r llun, yn agos i Ynys Ford.]]Mae '''Pearl Harbor''' yn [[harbwr]] ar ynys [[Oahu|Oʻahu]], [[Hawaii]], i'r gorllewin o [[Honolulu]]. Mae rhannau helaeth o'r harbwr a'r ardal gerllaw yn ganolfan llyngesol dyfroedd dwfn Llynges yr [[Unol Daleithiau]]. Mae hefyd yn bencadlys i Lynges [[Cefnfor Tawel]] yr Unol Daleithiau Pan ymosodwyd ar Pearl Harbor gan Ymerodraeth Japan ar y [[7 Rhagfyr|7fed o Ragfyr]], [[1941]], daeth a'r Unol Daleithiau i mewn i'r [[Ail Ryfel Byd]].
 
==Hanes==
Llinell 12:
 
===Dydd Sul, 7 Rhagfyr, 1941===
[[delwedd:180px-USS_Arizona_sinking_2a.jpg|bawd|dde|200px|USS Arizona (BB-39) yn suddo yn ystod yr ymosodiad]]
Dechreuodd awyrlu a llongau tanddwr bychain Llynges Ymerodraeth Japan ymosodiad ar yr Unol Daleithiau. Yn groes i'r gred gyffredin, nid oedd yr ymosodiadau hyn wedi dod fel syndod. Roedd yr Americanwyr wedi datrys côd Japan yn gynt, a gwyddent am ymosodiad arfaethedig cyn iddo ddigwydd. Fodd bynnag, yn sgîl trafferthion i ddatrys negeseuon eraill a ddanfonwyd gan Japan, methodd yr Unol Daleithiau ddarganfod beth yn union oedd targed Japan cyn iddynt ymosod.<ref> Nash, Gary B., Julie Roy Jeffrey, John R. Howe, Peter J. Frederick, Allen F. Davis, Allan M. Winkler, Charlene Mires, and Carla Gardina Pestana. The American People, Concise Edition Creating a Nation and a Society, Combined Volume (6th Edition). New York: Longman, 2007.</ref> O dan arweiniad y llyngesydd Isoroku Yamamoto, roedd yr ymosodiad yn drychinebus i'r Americanwyr o ran y colledion dynol a'r difrod i awyrlu'r Unol Daleithiau. Am 6.05y.b. ymosododd y don cyntaf o 183 o awyrennau. Bomwyr plymio, bomwyr llorweddol ac ymladdwyr oedd yr awyrennau'n bennaf.<ref>Hakim, Joy (1995). A History of Us: War, Peace and all that Jazz. New York: Oxford University Press. ISBN 0-19-509514-6.</ref> Trawodd y [[Japaneaid]] longau ac offer milwrol am 7.51 y.b. I ddechrau, ymosododd y don gyntaf o awyrennau y meysydd awyr yn [[Ynys Ford]]. Am 8.30 y.b. ymosododd yr ail don o 170 o awyrennau Japaneaidd ar y fflyd a oedd wedi'u hangoru yn Pearl Harbor. Trawyd y llong frwydro ''[[USS Arizona (BB-39)|Arizona]]'' gan fom a laniodd ar adran arfau blaen y llong. Achosodd hyn i'r llong ffrwydro'n ddarnau, gan suddo o fewn eiliadau. Yn gyfangwbl, suddwyd naw llong o fflyd yr Unol Daleithiau a difrodwyd 21 llong yn ddifrifol. Roedd tri o'r 21 wedi'u difrodi mor wael fel nad oedd modd eu trwsio. Bu farw 2,350 i gyd, gan gynnwys 68 o sifiliaid, ac anafwyd 1,178. O'r holl bersonél milwrol a fu farw yn Pearl Harbor, roedd 1,177 ohonynt ar fwrdd yr Arizona. Saethwyd y bwledi cyntaf gan USS Ward (DD-139) at long tanddwr bychan a ddaeth i wyneb y dŵr tu allan i Pearl Harbor; llwyddodd y Ward i suddo'r llong tanddŵr bychan am tua 6:55, tua awr cyn yr ymosodiad ar Pearl Harbor.