Castellnewydd Emlyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 11:
Safai Castell Newydd Emlyn yng [[Emlyn (cantref)|nghantref Emlyn]], ac fe'i henwir ar ôl y cantref hwnnw. Adeiladwyd y [[castell]], sydd nawr yn adfeilion, gan y [[Normaniaid]]. Cafodd ei chyfeirio ati gyntaf ym [[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]] ym [[1215]] pan gipwyd hi gan [[Llywelyn Fawr|Llywelyn ap Iorwerth]]<ref>''The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales''. John Davies, [[Nigel Jenkins]], Menna Baines and Peredur Lynch (2008) pg609 ISBN 9780708319536</ref>.
Ymwelodd [[Gerallt Gymro]] ag Emlyn yn ystod ei [[Hanes y Daith Trwy Gymru|daith trwy Gymru]]
Bellach, mae Castell Newydd Emlyn yn dref farchnad brysur.
==Cyfleusterau ac atyniadau==
Yn y dref mae neuadd tref, oriel gelf, theatr (Attic Theatre) ac ysgol uwchradd ([[Ysgol Gyfun Emlyn]]). Lleolir [[Amgueddfa Wlan Cymru]] a [[Rheilffordd Dyffryn Teifi]] gerllaw.
Yn wahanol i nifer o drefydd gwledig Cymru, mae Castell Newydd Emlyn wedi llwyddo i gadw ystod helaeth o wasanaethau lleol, ar ffurf busnesau teuluol yn bennaf. Lleolir y dref mewn ardal amaethyddol, ac adlewyrchir hyn gan gyflogwr mwyaf y dref, sef ffatri [[Saputo]] sy'n cynhyrchu caws [[Mozzarella]]. Mae nhw'n un o'r cynhyrchwyr mwyaf o gaws Mozzarella ym Mhrydain.
Llinell 24:
==Gwiber Castell Newydd Emlyn==
Mae [[chwedl]] ''Gwiber Castell Newydd Emlyn'' yn adrodd hanes [[gwiber]] ffyrnig gydag adain, a oedd yn anadlu tân a mwg, yn glanio ar furiau'r castell a disgyn i gysgu yno. Ymledaenodd ofn i gychwyn, ond yn fuan dechreuodd pobl y dref gynllwynio i ddinistrio'r bwystfil. Dyfeisiodd milwr gynllun i rydio i'r Afon Teifi a cheisio saethu'r Gwiber mewn rhan gwan o'i gorff.
==Enwogion==
|