Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916"

dim crynodeb golygu
BNo edit summary
No edit summary
Cynhaliwyd '''[[Yr Eisteddfod Genedlaethol|Eisteddfod Genedlaethol]]''' yn [[Aberystwyth]] yn 1916. Daeth [[Hedd Wyn]] yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair, gydag un beiriniad, [[J. J. Williams (bardd)|J. J. Williams]], yn ystyried ei awdl ef yn orau.
 
Yng nghystadleuaeth [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|y Gadair]], ar destun "Ystrad Flur", derbyniwyd tair awdl, yn dwyn yr enwau ''Penbanc'', ''Y Fantell Fair'' ac ''Eldon''. Gwelwyd rhaniad eglur rhwng dau o'r beirniaid rhwng y ddau olaf. Yn ôl [[John Morris-Jones]], 'roedd gwaith ''Y Fantell Fair'' yn "frith o wallau", tra bod ''Eldon'' yn cynnig "newydd-deb yn ei drefniant"; ei gasgliad oedd y dylid gwybrwyo'r ail. Disgrifiodd [[J. J. Williams (bardd)|J.J. Williams]] y ddau yn rhagorol, ac ''Eldon'' "yn rhydd o'r brychau sy'n anurddo cerdd ''Y Fantell Fair''". Disgrifa gwaith ''Eldon'' fel "Awdl o cameos...awdl anghyfartal" tra bod ''Y Fantell Fair'' wedi llwyddo "i ddal y peth anghyffrwdd hwnnw a eliwr yn awyrgylch". Wedi pwyso a mesur, barnodd yntau mai ''Y Fantell Fair'' oedd orau. Ni chafywd sylw gan y trydydd beirniad, Parch. R. Williams (Berw), heblaw ei fod yn hollol gydolygu â'r Athro John Morris-Jones. Oherwydd hynny, dyfarnwyd y gadair i ''Eldon'', sef [[John Ellis Williams (bardd)|John Ellis Williams]], gweinidog o [[Bangor|Fangor]]<ref>''Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1916''</ref>, gan siomi ''Y Fantell Wen'', sef [[Hedd Wyn]], a aeth ymlaen i ennill y gadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917]].
 
Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, ysgrifennodd [[Alan Llwyd]], mai "awdl o fân ddarluniau yw awdl J. Ellis Williams, ond ni cheir yn y gerdd unrhyw unoliaeth neu artistri o ran cynllun", a'r "gwir yw mai cystadleuaeth rhwng bardd athrylithgar diaddysg a bardd addysgedig diathrylith oedd hon, ac aeth y purydd ieithyddol, John Morris-Jones, am yr awdl ramadegol gywir*<ref>''Gwae Fi Fy Myw: Cofiant Hedd Wyn'', Alan Llwyd, 1991</ref>
 
{|border="1"
!Cystadleuaeth!!Teitl y Darn!!Ffugenw!!Enw
|-
|[[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|Y Gadair]]||''Ystrad Fflur''||-Eldon||[[John Ellis Williams (bardd)|John Ellis Williams]]
|-
|[[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Y Goron]] (*)||Pedair telyneg||-||Rhannu'r wobr rhwng [[Gwili]] a [[Wil Ifan]]
 
(*) Ni chynigiwyd Coron.
 
==Dolenni allanol==
 
[http://www.youtube.com/watch?v=Z-VY7s-vXWE Ffilm Gorymdaith yr Orsedd]
 
==Ffynonellau==
<references/>
 
 
 
[[Categori:Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Aberystwyth 1916]]
889

golygiad