Hirlas Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cerdd fawl anghonfensiynol i'w [[teulu (gosgordd)|deulu]] (gosgordd) a briodolir i'r [[bardd-dywysog]] [[Owain Cyfeiliog]], mab [[Gruffudd ap Maredudd]] o [[teyrnas Powys|Bowys]], yw '''Hirlas Owain'''. Mae'n un o gerddi enwocaf [[Beirdd y Tywysogion]].
 
Mae'n cael ei derbyn yn waith Owain Cyfeiliog gan y mwyafrif o ysgolheigion a cheir nodyn yn nhestun [[Llyfr Coch Hergest]] yn dweud mai Owain Cyfeiliog a'i canodd, ond yn ei olygiad diweddar mae GruffuddGruffydd Aled Williams yn awgrymu'r posiblrwydd mai [[Cynddelw Brydydd Mawr]] oedd yr awdur, a hynny ar sail nodweddion unigryw yn y [[mydr]] sy'n gyffredin i ganu Cynddelw i'w noddwyr ym Mhowys a 'Hirlas Owain'; ond dydi pawb ddim yn derbyn y ddadl yn erbyn yr awduraeth draddodiadol.
 
Mae'r gerdd yn disgrifio cyrch Owain a'i osgordd yn [[1156]] i achub ei frawd [[Meurig ap Gruffudd]] o garchar ym [[Maelor]]. Ceir gwledd enfawr er anrhydedd i Owain lle mae gwin yn cael ei dywallt i lestri drudfawr y rhyfelwyr, un ar y tro.