Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 23:28, 6 Medi 2006

Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.

Temenos Zeus yn Dodona
Map o'r safle

Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf Gwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groeogwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad a'r Odyssey. Dywed Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno.

Yn ôl Homer eto gwasanethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasnaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud bod yr oracl yn siarad trwy sibrydion dail y dderwydden.

Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.

Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 C.C.-272 C.C.), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).

Llyfryddiaeth

  • Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)