Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dodona"

Lleihawyd o 1 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
BNo edit summary
Ystyrid [[Oracl]] y duw [[Zeus]] yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg [[Homer]] yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn [[yr Iliad]] ac yn yr [[Yr Odyssey|Odyssey]]. Dywed y daearyddwr [[Strabo]] fod yr oracl wedi cael ei symud yno o [[Skotoussa]] yn [[Thessaly]] ar orchymyn y duw [[Apollo]], ond yn ôl yr hanesydd [[Herodotus]] sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o [[Thebes (Yr Aifft)|Thebes]] (yn [[yr Aifft]]) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno.
 
Yn ôl Homer eto gwasanethidgwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y ''selloi'', nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasnaethaigwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y [[Pythones|bythones]] yn [[Delphi]]. Mae Herodotus yn dweud bodfod yr oracl yn siarad trwy sibrydionsibrwd dail y dderwydden.
 
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.