Cernyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B sillafu
Llinell 4:
Un o'r gwledydd [[Celtiaid|Celtaidd]] yw '''Cernyw''' ([[Cernyweg]]: ''Kernow''; [[Saesneg]]: ''Cornwall''), yn ne-orllewin [[Prydain]]. Yn weinyddol fe'i trinir fel un o siroedd [[Lloegr]]. Mae'n ffinio â [[Dyfnaint]] ar y tir ac yn gorwedd rhwng [[Môr Iwerddon]] a'r [[Môr Udd]]. Ystyrir [[Ynysoedd Syllan]] neu Scilly hefyd yn rhan o Gernyw.
 
[[Truro]] yw'r unig ddinas, a hefyd y brifddinas. Mae prif drefi'r sir yn cynnwys [[Newquay]], [[Bodmin]], [[St Austell]], [[CambourneCamborne]], [[Redruth]] a [[Padstow]]. Mae Cernyw yn enwog am fod yn lle dda i fynd am wyliau am ei fod yn dwymach ar gyfartaledd na unrhyw le arall ym Mhrydain, ac am ei fod yn lle dda i [[syrffio]].
 
Mae Cernyw yn enwog am ei phasteiod a'i mwynfeydd [[alcam]], ac am [[Senedd y Stanorion]] neu Fwynwyr sy'n dal i fynnu mai ganddi hi mae'r hawl i reoli'r wlad. [[Piran]] yw nawddsant Cernyw, a'i faner yn groes wen ar gefndir du. Mae mudiad [[Cenedlaetholdeb|cenedlaethol]] gwleidyddol yng Nghernyw, ond nid yw'r pleidiau megis [[Mebyon Kernow]] a [[Plaid Genedlaethol Cernyw|Phlaid Genedlaethol Cernyw]] wedi gwneud fawr o farc hyd yma, er iddynt gipio ambell sedd ar gynghorau lleol.