Thomas Powel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

ysgolhaig Celteg
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ysgolhaig Celtaidd Cymreig oedd '''Thomas Powel''' (1845 - 1922). Ef oedd yr athro prifysgol cyntaf i gael Cadair [[Y Celtiaid|Celta...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:40, 15 Hydref 2009

Ysgolhaig Celtaidd Cymreig oedd Thomas Powel (1845 - 1922). Ef oedd yr athro prifysgol cyntaf i gael Cadair Celtaidd yng Nghymru.

Ganed Powel yn Llanwrtyd, Brycheiniog (de Powys) yn 1845. Graddiodd o Goleg yr Iesu, Rhydychen gydag Anhrydedd yn y Clasuron yn 1872 ac ymunodd â staff Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd pan sefydlwyd y coleg hwnnw yn 1883. Bu'n athro cadair Geltaidd yno o 1884 hyd ei ymddeoliad yn 1914.

Gwasanaethodd tymor fel golygydd Y Cymmrodor, cylchgrawn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, o 1880 hyd 1886. Cyhoeddodd nifer o erthyglau a sawl golygiad o destunau Cymraeg Canol, yn cynnwys Ystorya de Carolo Magno.

Llyfryddiaeth ddethol

Golygydd:

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.