Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 57:
 
Buan iawn y tyfodd nifer y myfyrwyr a’r pynciau y cynigiwyd iddynt yn fwy nag y gellid eu dysgu yn yr adeilad hon. Erbyn diwedd y 19g roedd y coleg wedi dechrau prynu tir ac adeiladau eraill er mwyn ehangu. Yn y 1960au a’r 1970au adeiladwyd campws newydd ar riw Penglais, gan drosglwyddo mwy a mwy o’r gwaith dysgu o’r ‘Hen Goleg’, gan adael y gwaith gweinyddu yno.<ref>W. J. Lewis, ''Born on a Perilous Rock'', tt. 171–180, The Cambrian News (Aberystwyth) Ltd (1980)</ref> Erbyn 2014 symudwyd y rhan fwyaf o'r gwaith gweinyddu oddi yno hefyd, gan adael yr Hen Goleg i ddisgwyl cael hyd i ddefnydd newydd unwaith eto.
 
==Ail-fywyd==
Yn dilyn symud adrannau'r Brifysgol i gyd i'r campws ar Riw Penglais, ceisiwyd canfod rôl newydd i'r Hen Goleg. Yn 2016 gwnaed cais am arian o gronfa'r [[Loteri Genedlaethol|Loteri]] gan Brifysgol Aberystwyth i ad-fer yr adeilad a dod â bywyd newydd iddi.<ref>https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2016/06/title-185179-cy.html</ref>. Bu'r cais yn llwyddiannus a datgelwyd ym mis Gorffennaf 2017 bod y Brifysgol am dderbyn £10.5m gan y Loteri i ad-newyddu a datblygu'r adeilad.<ref>https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/40720454</ref> Mae'r arian yn rhan o adferiad, fydd yn costio cyfanswm o tua £22m, i droi'r Hen Goleg yn ofod artistig a pherfformio, gyda chaffi ac ystafelloedd cymunedol yn ogystal ag amgueddfa'r brifysgol.
 
==Cerfluniau==