Pigiad meingefnol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Diagnosteg: cyswllt dwbl
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Prawf meddygol]] [[diagnosis meddygol|diagnostig]] i brofi sampl o [[hylif serebro-sbinol]] (CSF), yr hylif sy'n amgylchynu'r [[ymennydd]] a [[llinyn yr asgwrn cefn]], yw '''pigiad meingefnol''' neu '''tap sbinol'''. Fe'i wneir drwy roi [[nodwydd hypodermig|nodwydd]] gau i mewn i ran isaf sianel y cefn i dynnu'r hylif. Caiff ei ddefnyddio'n aml i wneud diagnosis o [[cyflwr meddygol|gyflyrau]] ar yr ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn megis [[meningitis]], [[enseffalitis]], a [[tiwmor|thiwmorau]]. Weithiau gall canlyniadau'r prawf ddangos cyflyrau sy'n effeithio ar y [[system imiwnedd]] megis [[sglerosis ymledol]].<ref name="cyflwyniad">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/p/article/pigiadmeingefnol?locale=cy#Cyflwyniad |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Pigiad meingefnol: Cyflwyniad |dyddiadcyrchiad=7 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref><ref name="pam">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/p/article/pigiadmeingefnol?locale=cy#Pam%20mae%20ei%20angen? |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Pigiad meingefnol: Pam mae ei angen? |dyddiadcyrchiad=7 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref> Weithiau defnyddir pigiad meingefnol fel triniaeth feddygol, er enghraifft fel modd o fewnosod [[gwrthfiotig]]au neu gyffuriau ymladd [[canser]] i mewn i gorff y claf, neu i leihau pwysedd sy'n gysylltiedig ag ambell cyflwr meddygol prin.<ref name="pam"/>
 
I berfformio'r prawf gofynnir i'r claf i orwedd ar un ochr gyda'i goesau wedi'u tynnu i fyny a'i ên yn plygu tuag i lawr, fel bod yr [[asgwrn cefn]] yn grwm a'r [[fertebra|fertebrâu]] wedi'u gwahanu gan alluogi'r nodwydd i fynd i mewn yn haws. Mae'n bosib i hefyd wneud y prawf â'r claf ar ei eistedd ond yn plygu drosodd. Paentir y croen ar waelod yr asgwrn cefn â thoddiant [[gwrthseptig]] a rhoddir pigiad o [[anesthetig lleol]] i rewi'r rhan honno o'r corff. Mae'r meddyg sy'n perfformio'r prawf yn gwthio nodwydd gau i mewn rhwng dau o'r fertebrâu ac i mewn i'r gofod o amgylch llinyn yr asgwrn cefn, ac mae'n cymryd ychydig eiliadau i ddigon o hylif serebro-sbinol ddiferu'n ôl i mewn i botyn di-haint o dan y nodwydd. Os oes angen i'r meddyg fesur pwysedd y CSF fe roddir tiwb yn sownd wrth y nodwydd i fesur pwysedd yr hylif sy'n dod allan. Bydd y nodwydd yn ei lle am 1-2 funud i gasglu sampl ddigonol, ac ar ôl ei thynnu rhoddir [[plastr]] dros y twll lle aeth y nodwydd i mewn i'r corff. Anfonnir y sampl CSF i labordy ar gyfer profion i wneud ddiagnosisdiagnosis o gyflwr y claf.<ref name="sut">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/p/article/pigiadmeingefnol?locale=cy#Sut%20mae%27n%20cael%20ei%20wneud? |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Pigiad meingefnol: Sut mae'n cael ei wneud? |dyddiadcyrchiad=7 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Mae'r anesthetig lleol a roddir yn arbed y claf rhag teimlo poen, ond mae'n bosib teimlo pwysedd wrth i'r nodwydd gael ei gwthio i mewn i'r croen. Gall rhai pobl cael poen fel pigyn yn eu cefn neu'u coes.<ref name="sut"/> Mae'n bosib datblygu [[cur pen]] ar ôl pigiad meingefnol, ond bydd hwn yn diflannu ar ôl ychydig oriau fel arfer. Gall orwedd am dipyn helpu i atal y [[sgîl-effaith]] hon. Prin iawn yw problemau mwy difrifol megis [[gwaedu]] o amgylch safle'r nodwydd a niwed i linyn yr asgwrn cefn neu i'r ymennydd.<ref name="sgîl-effeithiau">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/p/article/pigiadmeingefnol?locale=cy#Sg%C3%AEl-effeithiau |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Pigiad meingefnol: Sgîl-effeithiau |dyddiadcyrchiad=7 Medi |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>