Dracula: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|dde|200px|Clawr yr addasiad cyntaf Nofel o 1897 gan yr awdur Gwyddelig Bram Stoker oedd '''Dracula'...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:56, 18 Hydref 2009
Nofel o 1897 gan yr awdur Gwyddelig Bram Stoker oedd Dracula. Y prif gymeriad oedd y fampir Count Dracula.
Cysylltir Dracula gyda nifer o fathau o ysgrifennu llenyddol gan gynnwys llenyddiaeth fampir, ffuglen arswyd, y nofel gothig a llenyddiaeth ymosodiad. O ran strwythur, nofel epistolaidd ydyw, sef cyfres o gofnodion mewn dyddiadur a llythyron. Astudiwyd themâu'r nofel gan feirniaid llenyddol a gwelir pynciau megis rôl gwragedd yn niwylliant Fictorianaidd, rhywioldeb confensiynol a cheidwadol, mewnlifiad, gwladfeydd a chwedloniaeth. Er na chrewyd y fampir gan Stoker, cafodd y nofel ddylanwad sylweddol ar boblogrwydd fampirod mewn dramâu, ffilmiau ac addasiadau teledu trwy gydol yr 20fed a'r 21fed ganrif