Shirley Bassey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 31:
 
O ganlyniad i eiriau awgrymog y gân, penderfynodd y [[BBC]] ei gwahardd. Serch hynny, gwerthodd y record yn dda, yn enwedig gyda fersiwn bŵerus Bassey o ''Stormy Weather''. Dilynwyd hyn gan fwy o senglau ac ym mis Chwefror 1957, cafodd Bassey ei llwyddiant mawr cyntaf gyda "Banana Boat Song" a aeth i rif 8 yn y Siart Senglau Prydeinig. Yn yr un flwyddyn recordiodd y sengl ''If I Had a Needle and Thread'' o dan arweiniad y cynhyrchydd Americanaidd Mitch Mitchell o dan y label Columbia. Yng nghanol 1958, recordiodd dwy sengl a fyddai'n datblygu i fod yn glasuron yn ngyrfa gerddorol Bassey: "As I Love You" a oedd ar ail ochr sengl y gân serch "Hands Across the Sea". Nid oedd y gwerthiant yn dda fodd bynnag ond wedi iddi berfformio yn y Palladium yn Llundain, gwelwyd cynnydd yn y gwerthiant. Ym mis Chwefror 1959, cyrhaeddodd rhif 1 yn y siart ac arhosodd yno am bedair wythnos. Recordiodd Bassey "''Kiss Me, Honey Honey, Kiss Me''" hefyd yr un cyfnod ac wrth i "As I Love You" ddringo'r siart, gwnaeth "Kiss Me, Honey Honey, Kiss Me" hefyd, gyda'r ddwy gân yn nhri uchaf y siart yr un pryd. Rhai misoedd yn ddiweddarach, arwyddodd Bassey gytundeb gyda [[EMI Columbia]], a dechreuodd yr ail gyfnod yn ei gyrfa.
 
==1960 - 1980==
Ar ddechrau ac yng nghanol y [[1960au]], cafodd Bassey llawer o lwyddiant yn siartiau cerddorol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pum albwm a gyrhaeddodd y 15 uchaf. Ym 1960, cyrhaeddodd ei recordiad o "As Long As He Needs Me" o Olover! gan [[Lionel Bart]] #2, a bu yn y siart am 30 wythnos. Ym 1962, cydweithiodd Bassey gyda [[Nelson Riddle]] a'i gerddorfa i gynhyrchu'r albwm "Let's Face the Music" (#12) a'r sengl "What Now My Love" (#5). Roedd caneuon eraill o'r cyfnod a aeth i Ddeg Uchaf y siart yn cynnwys ei hail #1, gyda'r ochr-A-dwbl "Reach for the Stars" / Climb Ev'ry Mountain" (1961), "I'll Get By" (hefyd ym 1961), a'i fersiwn hi o gân lwyddiannus Ben E. King "I (Who Have Nothing)" ym 1963. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, gwahoddodd [[John F. Kennedy]] Bassey i ganu yn ei Ddawns Urddo. Ym 1965, mwynhaodd Bassey ei chân llwyddiannus cyntaf yn siart yr Unol Daleithiau gyda'r gân ''[[Goldfinger (trac sain)|Goldfinger]]'' o'r [[ffilm]] [[James Bond]] o'r un enw. Yn sgîl llwyddiant y gân honno, ymddangosodd Bassey ar nifer o [[sioe siarad|sioeau siarad]] Americanaidd fel y rhai a gyflwynwyd gan [[Johnny Carson]] a [[Mike Douglas]]. Hefyd ym 1965, canodd y trac teitl ar gyfer y ffilm ddychanol o James Bond, "The Liquidator", ac aeth yr albwm a recordiodd yn fyw yn ''Pigalle'' Llundain i'r 20 Uchaf.
 
Ar ôl 1964, cafodd y sengl "Goldfinger" ddylanwad hir-dymor ar ei gyrfa; pan yn ysgrifennu nodiadau ar gyfer clawr yr albwm ''Bassey's 25th Anniversary Album''' ym 1978, dywed Clayton fod: "Acceptance in America was considerably helped by the enormous popularity of (Goldfinger)...But she had actually established herself there as early as 1961, in cabaret in New York. She was also a success in Las Vegas...'I suppose I should feel hurt that I've never been really big in America on record since Goldfinger...But, concertwise, I always sell out.'..."<ref>[http://home.arcor.de/bassey/ The Songs of Shirley Bassey] Nodiadau clawr yr albwm gan Peter Clayton. "25th Anniversary Album".</ref> Adlewyrchwyd hyn yn y ffaith mai dim ond un o LPs Bassey a gyrhaeddodd yr 20 Uchaf yn siart yr Unol Daleithiau, (R&B, Live at Carnegie Hall), ac felly roedd yn "lwyddiant un-cân," a ymddangosodd unwaith yn unig ym 40 Uchaf y Billboard Hot 100, gyda "Goldfinger". Serch hynny, ar ôl "Goldfinger" dechreuodd ei gwerthiant leihau yn y Deyrnas Unedig hefyd, gyda dwy o'i senglau'n unig yn cyrraedd y 40 Uchaf tan 1970. Roedd ganddi gytundeb gyda United Artists, a threuliodd ei halbwm cyntaf gyda'r label hynny, sef "I've Got a Song for You" (1966), wythnos yn y siart; o bryd hynny tan 1970, dim ond dwy o'i halbymau aeth i 40 Uchaf y siart, gydag un o'r albymau hynny yn gasgliad o ganeuon. Ym 1967 fodd bynnag, rhyddhawyd un o'i senglau enwocaf [["Big Spender]]", er iddo gyrraedd ychydig tu allan i 20 Uchaf y Deyrnas Unedig yn unig.
 
==Recordiau Shirley Bassey==