Nestoriaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 21 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 11:
== Hanes ==
[[Delwedd:Nestorius Hooghe 1688.png|bawd|Ysgythriad o Nestorius gan yr Iseldirwr Romeyn de Hooghe (1688).]]
Ffynnodd Nestoriaeth yn ei hoes gynnar ym Mhersia. Datganodd yr Eglwys Bersiaidd ei hannibyniaeth yn 424, gan osgoi erledigaeth gan y rhai oedd yn drwgdybio Cristnogion o fod yn gysylltiedig ag estroniaid. Cafodd Theodore o Mopsuestia, prif ddiwinydd y Nestoriaid, ei gydnabod yn amddiffynnydd y ffydd gan yr Eglwys Bersiaidd yn 486, ac ers cyfnod y patriarch Babai (497–502) eglwys Nestoriaidd ydy'r Eglwys Bersiaidd. Yn niwedd y 5g, ymgasglodd nifer o ddilynwyr Nestorius yn ysgol ddiwinyddol [[Edessa (Mesopotamia)|Edessa]]. Cafodd yr ysgol ei chau gan awdurdodau'r ymerodraeth yn 489, ac ymfudodd carfan o Nestoriaid pybyr i Bersia. Daeth yr ysgol newydd yn Nisibis yn ganolfan ddeallusol y Nestoriaid. Ymledodd yr Eglwys Bersiaidd i sefydlu esgobaethau yn [[Arabia]] a'r India yn ogystal â'i harchesgobaethau ym Mhersia. Bu [[sgism]] yn yr eglwys yn y 520au a'r 530au, a chawsant eu herlid yn y cyfnod 540–545. Ailsefydlwyd y traddodiad [[mynach]]aidd gan Abraham o Kashkar (501–586), a sefydlodd mynachdy Mynydd Izala ger Nisibis.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/topic/Nestorians |teitl=Nestorians |dyddiadcyrchiad=18 Hydref 2018 }}</ref>
 
[[Delwedd:Dioceses of the Church of the East.svg|bawd|chwith|Map o esgobaethau Eglwys y Dwyrain ac ardaloedd ei chenadaethau yn yr Oesoedd Canol.]]
93,058

golygiad