Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Samhain"

Ychwanegwyd 8 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
manion pitw
BNo edit summary
(manion pitw)
'''Samhain''' oedd yr enw a roddir yng [[Gwyddeleg|Ngwyddeleg]] ([[Hen Wyddeleg]]: ''samain'', [[Gaeleg yr Alban]]: ''Samhainn'' neu ''Samhuinn'') i'r ŵyl bwysicaf o bedair prif ŵyl [[y Celtiaid]], ar [[31 Hydref]]. Fel rheol, ystyrir yr ŵyl fel dechrau blwyddyn newydd y Celtiaid.
 
Yng [[Gâl|Ngâl]], mae cyfeiriad at ''Samonios'' ar [[Calendr Coligny|Galendr Coligny]]. Parhaodd yr ŵyl i fod yn un bwysig yn [[Iwerddon]] yn y [[Canol Oesoedd]], gyda chyfarfod ar [[Bryn Tara|Fryn Tara]] a'r oedd yn parhau am dridiau.
 
Ar ŵyl Samhain, yr oeddroedd ffiniau rhwng y byd hwn a'r byd arall, (yr Arallfyd,) yn teneuo, neu'n diflannu. Y maeMae hwn yn syniad sy'n parhau i raddau mewn rhai o arferion dathlu [[Gŵyl Calan Gaeaf]], a hefyd yr ŵyl grefyddol Gŵyl yr Holl Eneidiau (Saesneg: ''All Hallows' Eve''). Yng Ngwyddeleg a Gaeleg yr Alban, gelwir Gŵyl Calan Gaeaf yn ''Oíche/Oidhche Shamhna'' a ''Samhain'', sydd hefyd yn fis Tachwedd yn yr Wyddeleg ac ''an t-Samhain'' yng Ngaeleg yr Alban.
 
==Gweler hefyd==