Y Geiriadur Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B llun
Llinell 9:
 
==Cynnwys==
Rhennir y geiriadur yn ddwy brif ran: Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg. Yn y rhan gyntaf ceir geiriau Cymraeg gyda'u cyfystyron yn Gymraeg a Saesneg a gwybodaeth ramadegol gryno. Yn yr ail ran ceir geiriau Saesneg gyda'u cyfystyron yn Gymraeg. Yn ogystal, ceir rhestrau yn y ddwy iaith o enwau personol ac enwau lleoedd, ac enwau anifeiliaid, pysgod, adar, ffrwythau a blodau. Mae'r rhan Gymraeg yn cynnwys detholiad o eiriau hynafol (a nodir gyda seren) ond geiriadur cyfoes ydyw yn bennaf ac fe'i cyflwynir 'I werin Cymru'.<br>
Gyda thwf y maes cyfieithu, amlygwyd un o wendidau'r geiriadur, sef y ffaith ei fod yn cynnwys nifer o eiriau hynafol nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach. Ar yr ochr Gymraeg mae'r geiriau hyn wedi'u dynodi gyda seren, ond nid felly ar yr ochr Saesneg. Gall defnyddio'r geiriadur hwn i gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg felly arwain at atgyfodi geiriau nad yw wedi'i ddefnyddio ers canrifoedd.
 
==Cyfeiriadau==