Agor y brif ddewislen

Newidiadau

dim crynodeb golygu
[[Plaid wleidyddol]] a dyfodd allan o blaid y [[Wigiaid]] i fod yn un o dair plaid fawr y [[DU]] oedd y '''Blaid Ryddfrydol'''. Unodd y blaid â'r [[SDPY Democratiaid Cymdeithasol (DU)|Plaid y Democratiaid Cymdeithasol]] (SDP) yn yr wythdegau i ffurfio plaid newydd y [[Democratiaid Rhyddfrydol]].
 
Uchafbwynt [[hanes]] y blaid oedd o ganol y [[19g]] hyd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] dan y [[Prif Weinidog|prif weinidogion]] Rhyddfrydol [[William Ewart Gladstone]], Sir [[Henry Campbell-Bannerman]], [[Clement Asquith]] a [[David Lloyd George]]. Yn y cyfnod hwnnw y Rhyddfrydwyr oedd y blaid fwyaf o lawer yng [[Cymru|Nghymru]] ac yn rhan o'r mudiad [[Radicaliaeth yng Nghymru|Radicalaidd]] oedd yn galw am [[ymreolaeth]] i Gymru ac [[Iwerddon]]. Arweiniodd anghydfod rhwng Lloyd George ac Asquith at ymraniad yn y blaid ar ôl y Rhyfel Mawr a chollodd y Rhyddfrydwyr dir i'r [[Plaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] a gymerodd le'r Rhyddfrydwyr fel [[gwrthblaid]] yn [[1922]].
 
Mwynheodd y blaid gyfnod o adfywiad dan arweinyddiaeth [[Jo Grimond]] ([[1956]]-[[1957]]) ac wedyn [[Jeremy Thorpe]] ([[1967]]-[[1976]]) tan i'r olaf orfod ymddiswyddo yn sgîl [[sgandal]] am ei fywyd personol. Dan [[David Steel]] daeth y blaid mewn cytundeb â'r Blaid Lafur a ffurfiwyd y [[Pact Lib-Lab]] i gadw'r [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Torïaid]] allan o [[llywodraeth|lywodraeth]] ([[1977]]-[[1978]]). Yn [[1981]] ffurfiwyd cynghrair gyda'r [[SDP]] a arweiniodd yn y pen draw at lawnsio plaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
 
[[Delwedd:Popular vote cy 2.svg|bawd|chwith|900px|Siart yn dangos canrannau'r bleidlais boblogaidd i bleidiau gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon, 1832–2005.]]
72,513

golygiad