Rhodri Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ga:Rhodri Mawr; cosmetic changes
brwydr Llandudno
Llinell 3:
Yr oedd Rhodri yn fab i [[Merfyn Frych]], a ddaeth yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ar farwolaeth ei dad yn [[844]], a'r dywyoges Nest o Bowys. Pan fu ei ewythr [[Cyngen]], brenin [[Teyrnas Powys|Powys]], farw ar [[Pererindod|bererindod]] i [[Rhufain|Rufain]] yn [[855]], etifeddodd Rhodri ei deyrnas ef hefyd. Yn [[872]] boddwyd trwy ddamwain [[Gwgon ap Meurig]], brenin [[Teyrnas Ceredigion|Ceredigion]] a [[Seisyllwg]], ac ychwanegodd Rhodri ei deyrnas yntau at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon. Yr oedd yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru.
 
Yr oedd Rhodri yn gorfod wynebu pwysau gan yr [[Eingl-Sacsoniaid]] ac yn gynyddol gan y [[Daniaid]] hefyd, a fuont yn ôl y [[Brut y Tywysogion|croniclau]] yn anrheithio [[Môn]] yn [[854]]. Yn [[856]] enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid, ym [[Brwydr Llanudno|Mrwydr Llandudno]] gan ladd eu harweinydd [[Gorm]] (a elwir weithiau yn Horm). Mae dwy gerdd gan [[Sedulius Scotus]] wedi ei hysgrifennu yn llys [[Siarl Foel]], brenin y [[Ffranciaid]] Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y [[Llychlynwyr]].
 
Yn [[877]] ymladdodd Rhodri frwydr arall yn erbyn y Daniaid, ond y tro yma bu raid iddo ffoi i [[Iwerddon]]. Pan ddychwelodd y flwyddyn wedyn, dywedir iddo ef a'i fab Gwriad gael eu lladd gan y Saeson, er na wyddir y manylion. Pan enillodd ei fab [[Anarawd ap Rhodri]] fuddugoliaeth dros wŷr [[Mersia]] ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe'i dathlwyd yn y [[brut]]iau fel "Dial Duw am Rodri".