Plaid Ryddfrydol (DU): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
[[Plaid wleidyddol]] a dyfodd allan o blaid y [[Wigiaid]] i fod yn un o dair plaid fawr y [[DU]] oedd y '''Blaid Ryddfrydol'''. Unodd y blaid â [[Y Democratiaid Cymdeithasol (DU)|PlaidPhlaid y Democratiaid Cymdeithasol]] (SDP) yn yr wythdegau i ffurfio plaid newydd y [[Democratiaid Rhyddfrydol]].
 
Uchafbwynt [[hanes]] y blaid oedd o ganol y [[19g]] hyd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] dan y [[Prif Weinidog|prif weinidogion]] Rhyddfrydol [[William Ewart Gladstone]], Sir [[Henry Campbell-Bannerman]], [[Clement Asquith]] a [[David Lloyd George]]. Yn y cyfnod hwnnw y Rhyddfrydwyr oedd y blaid fwyaf o lawer yng [[Cymru|Nghymru]] ac yn rhan o'r mudiad [[Radicaliaeth yng Nghymru|Radicalaidd]] oedd yn galw am [[ymreolaeth]] i Gymru ac [[Iwerddon]]. Arweiniodd anghydfod rhwng Lloyd George ac Asquith at ymraniad yn y blaid ar ôl y Rhyfel Mawr a chollodd y Rhyddfrydwyr dir i'r [[Plaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] a gymerodd le'r Rhyddfrydwyr fel [[gwrthblaid]] yn [[1922]].