Val Kilmer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen Person | enw = Val Kilmer | delwedd = Val-Kilmer.jpg | pennawd = Val Kilmer yn 2005 | dyddiad_geni = 31 Rhagfyr, 1959 |...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:29, 26 Hydref 2009
Actor Americanaidd ydy Val Kilmer (ganed 31 Rhagfyr, 1959). Yn wreiddiol, actor llwyfan ydoedd ond daeth i enwogrwydd mewn ffilmiau yng nghanol y 1980au pan serennodd mewn ffilmiau comedi, gan gynnwys Top Secret! (1984), y ffilm cwlt Real Genius (1985), a'r ffilm hynod lwyddiannus Top Gun.
Val Kilmer | |
---|---|
Galwedigaeth | Actor |
Yn ystod y 1990au, bu Kilmer mewn nifer o ffilmiau a fu'n lwyddiannau masnachol, gan gynnwys ei rôl fel Jim Morrison yn The Doors, Doc Holliday yn Tombstone (1993), Batman yn y ffilm Batman Forever (1995), Chris Shiherlis yn Heat a Simon Templar yn The Saint (1997). Ar ddechrau'r 2000au, ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau eraill, gan gynnwys The Salton Sea, Spartan, ac mewn rôlau cefnogol yn Kiss Kiss Bang Bang, Alexander ac fel llais KITT yn Knight Rider.