Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Afon Clwyd"

Ychwanegwyd 13 beit ,  2 flynedd yn ôl
Gwybodlen WD
(→‎top: Gwybodlen Sir Ddinbych using AWB)
(Gwybodlen WD)
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
[[Delwedd:River Clwyd - geograph.org.uk - 706739.jpg|250px|bawd|Afon Clwyd yn llifo drwy gorsdir [[Morfa Rhuddlan]].]]
[[Delwedd:River Clwyd - geograph.org.uk - 606614.jpg|250px|bawd|Afon Clwyd o Bont Llannerch.]]
 
Mae '''Afon Clwyd''' yn [[afon]] yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]]. Enwyd yr hen sir [[Clwyd]] ar ôl yr afon, sy'n rhedeg trwy ei chanol, a'r [[Dyffryn Clwyd|dyffryn]]. Mae'n llifo o gyffiniau [[Melin y Wig]] i [[aber]]u ym [[Môr Iwerddon]] yn [[Y Foryd]], ger [[Y Rhyl]]. Mae [[Rhuthun]] a [[Llanelwy]] ymhlith y trefi ar lannau'r afon.
 
 
Wrth i Afon Clwyd lifo i mewn i ran uchaf Dyffryn Clwyd a'r tir ddechrau mynd yn fwy gwastad ar ei glannau, mae [[Afon Alyn]] yn ymuno â hi o'r de-ddwyrain. Saif pentref hanesyddol [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] ar aber Alyn a Chlwyd. Erbyn iddi gyrraedd tref [[Rhuthun]] a'i [[Castell Rhuthun|gastell]] canoloesol mae'r afon wedi chwyddo'n sylweddol ac yn cymryd cwrs mwy hamddenol bron yn syth i gyfeiriad y gogledd a'r môr. Mae hi'n gadael Rhuthun ar ei glan ddwyreiniol ac mae'r A494 yn ei chroesi am yr ail dro ar ymyl y dref. Mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi wrth iddi fynd yn ei blaen, gan gynnwys [[Afon Ystrad]] o gyfeiriad [[Nantglyn]] i'r gorllewin. Rhed yr afon heibio i [[Llangynhafal|Langynhafal]] a [[Llandyrnog]], i'r dwyrain, a thref [[Dinbych]] i'r gorllewin. Hanner milltir cyn y dref olaf honno mae [[Afon Clywedog (Clwyd)|Afon Clywedog]], hithau'n codi yn Fforest Clocaenog hefyd, yn ymuno â hi.
[[Delwedd:River Clwyd - geograph.org.uk - 706739.jpg|250px|bawd|chwith|Afon Clwyd yn llifo drwy gorsdir [[Morfa Rhuddlan]].]]
[[Delwedd:River Clwyd - geograph.org.uk - 606614.jpg|250px|bawd|chwith|Afon Clwyd o Bont Llannerch.]]
 
Am draean olaf ei siwrnai mae'r afon yn llifo'n urddasol trwy ffermdir cyfoethog a dolydd braf Dyffryn Clwyd, heibio i [[Bodfari|Fodfari]], gyda [[Bryniau Clwyd]] i'r dwyrain. Ar gyrrion dwyreiniol dinas eglwysig [[Llanelwy]] mae'r [[A55]] yn croesi'r afon ar bont newydd. Mae'r tir ar ei glannau'n wastad iawn erbyn i [[Afon Elwy]] lifo i mewn iddi ychydig i'r gogledd o Lanelwy. Mae hi'n llifo trwy ganol [[Rhuddlan]] ac yn fuan wedyn yn ymagor i'r [[Y Foryd|Foryd]], ei haber cysgodlyd ger [[Y Rhyl]], ac yn cyrraedd y môr.