Gallienus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: lmo:Gallien
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 1:
[[Delwedd:Gallienus bust.jpg|thumb|Galienus]]
 
'''Publius Licinis Egnatius Gallienus''' ([[218]]-[[268]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[260]] hyd 268, ar ôl bod yn gyd-ymerawdwr gyda’i dad [[Valerian I]] o [[253]] hyd 260. Daeth yn ymerawdwr ynghanol [[Argyfwng y Drydedd Ganrif]], a bu’n fwy llwyddiannus na’r rhan fwyaf o ymerodron y cyfnod hwn.
 
Yn [[260]] cymerwyd Valerian yn garcharor gan [[Sapor I]], brenin [[Persia]]. Er i Gallienus glywed fod ei dad wedi ei ladd a’i flingo gan y Persiaid, ni chyhoeddodd hyn I’r boblogaeth am flwyddyn er mwyn cael amser I gryfhau ei safle.
 
Bathodd Gallienus lawer o arian yn ystod ei deyrnasiad, a defnyddid y darnau arian fel propaganda, yn dangos yr ymerawdwr yn fuddugoliaethus. Yr oedd gan Gallienus berthynas agos a’r athronydd neoplatoniadd [[Plotinus]]. Mae’n ymddangos I Plotinus awgrymu I’r ymerawdwr y posibilrwydd o greu cymuned athronyddol yn seiliedig ar ‘’Weriniaeth’’ [[Platon]], ond oherwydd problemau niferus yr ymerodraeth yn y cyfnod hwn, ni wnaed yr arbrawf.
 
Ni lwyddodd Gallienus i ddal ei afael ar holl diriogaethau’r ymerodraeth. Bu llawer o ymladd yn y dwyrain ac yn [[268]] collodd Gallienus ran helaeth o [[Gâl]] pan gyhoeddodd y cadfridog [[Postumus]] ei hun yn ymerawdwr [[Ymerodraeth y Galiaid]]. Yn y brwydro yn erbyn Postumus daeth cadfridog arall, [[Claudius II|Claudius]] I’r amlwg ac enillodd ffyddlondeb y llengoedd.
 
Yr un flwyddyn ymosododd y [[Gothiaid]] ar dalaith [[Pannonia]] a bwrw ymlaen nes bygwth y brifddinas ei hun. Yr un pryd anrheithiodd yr Alemanni ogledd yr Eidal. Llwyddodd Gallienus I
orchfygu’r Gothiaid mewn brwydr ym mis Ebrill 268, yna aeth tua’r gogledd i orchfygu’r Alemanni. Yna ymgyrchodd yn erbyn y Gothiaid eto, a’u gorchfygu ym mrwydr Naissus, gyda llawer o’r clod am y fuddugoliaeth yn ddyledus I’r cadfridog [[Aurelianus]].
 
Er gwaethaf y llwyddiannau hyn, cododd Aureolus, pennaeth y byddinoedd yn [[Iliria]], mewn gwrthryfel. Ymosododd ar yr Eidal a chipiodd ddinas [[Milan]]. Cyrhaeddodd Gallienus yno gyda’i fyddin a gwarchae ar y ddinas, ond ynghanol y gwarchae llofruddiwyd ef. Yr oedd sôn bod Claudius ac Aurelianus a rhan yn y cynllwyn.
 
Yr oedd Gallienus yn llwyddiannus iawn ar faes y gad, ond ni fedrodd uno’r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad. Ar ddiwedd ei deyrnasiad yr oedd yr ymerodraeth ''de facto'' yn dair rhan, gan fod Ymerodraeth y Galiaid yn y gorllewin a thiriogaethau [[Zenobia (Brenhines Palmyra)|Zenobia]] yn [[Palmyra]] yn y dwyrain wedi dod yn rhydd o afael yr ymerawdwr.
 
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
|-
|width="30%" align="center"|'''O'i flaen :<br />'''[[Valerian I]]
|width="40%" align="center"|'''[[Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodron Rhufain]]<br />Gallienus'''
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :<br />'''[[Claudius II]]
|}
 
Llinell 43:
[[he:גליאנוס]]
[[hr:Galijen]]
[[hu:Publius Licinius Egnatius Gallienus római császár]]
[[is:Gallienus]]
[[it:Gallieno]]