Eva Perón: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen Person
| enw = Eva Perón
| delwedd = Evita (foto).JPG
| pennawd = Eva Perón
| dyddiad_geni = [[7 Mai]], [[1919]]
| man_geni = [[Los Toldos]], {{banergwlad|Ariannin}}
| dyddiad_marw = [[26 Gorffennaf]], [[1952]]
| man_marw = [[Buenos Aires]], {{banergwlad|Ariannin}}
| enwau_eraill =
| enwog_am =
| galwedigaeth = [[Gwleidydd]]
}}
 
[[Delwedd:Eva Perón.jpg|200px|bawd|'''Evita''' (tua [[1947]])]]
Roedd '''Eva María Eva Duarte de Perón''' neu '''Evita Perón''' ([[7 Mai]] [[1919]] - [[26 Gorffennaf]] [[1952]]), ganed '''María Eva Duarte''', yn actores a gwleidydd poblogaidd, a aned yn Los Toldos, [[Buenos Aires]]. Ail wraig yr [[Arlywydd]] Juan Domingo Perón (1895–1974) ydoedd a bu'n Foneddiges Gyntaf yr Ariannin o 1946 tan ei marwolaeth ym 1952. Yn aml cyfeiri ati fel '''Eva Perón''', neu'r term [[Sbaeneg]] o annwylder Evita, sy'n golygu "Eva Fach".
 
==Ei hanes==
 
Fel ail wraig [[Juan Domingo Perón|Juan Perón]], yn ei dymor cyntaf fel arlywydd [[yr Ariannin]] ([[1946]]-[[1955]]), cefnogai Evita ddiwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i waith elusennol cawsai ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad.
Plentyn llwyn a pherth ydoedd a anwyd yng nghefn gwlad yr Ariannin ym 1919. Ym 1934, pan oedd yn 15 mlwydd oed, aeth i'r [[prifddinas|brifddinas]], [[Buenos Aires]] lle dilynodd yrfa fel [[actores]] ym myd y llwyfan, [[radio]] a [[ffilm]].
 
Cyfarfu Eva y Cadfridog Juan Perón ar [[22 Ionawr]], [[1944]], mewn noson elusennol yn Stadiwm Park Luna ym Buenos Aires, er mwyn codi arian i'r rhai a ddioddefodd yn [[Daeargryn San Juan|Naeargryn San Juan]]. Priododd y ddau y flwyddyn ganlynol. Ym 1946, etholwyd Juan Perón yn Arlywydd yr Ariannin. Dros y chwe mlynedd ganlynol, daeth Eva Perón yn ffigur dylanwadol o fewn yr undebau llafur o blaid Peron, gan siarad ar ran hawliau'r gweithwyr. Rheolodd y Gweinidogaethau Gwaith ac Iechyd a sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad. Cefnogai Evita ddiwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol cawsai ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Hyhi hefyd a sefydlodd y Blaid Benywaidd Peronaidd.
 
Ym 1951, derbyniodd Eva Perón yr enwebiad Peronaidd i fod yn Is-Arlywydd yr Ariannin. Yn ei hymgais, cafodd gefnogaeth o sylfeini gwleidyddol Peronaidd a dosbarth gweithiol, incwm isel yr Ariannin a gyfeiriwyd atynt fel ''descamisados'' neu'r "rhai heb grysau". Fodd bynnag, golygodd gwrthwynebiad gan elite y wlad a'r lluoedd arfog, ynghyd â'i hiechyd bregus ei bod wedi tynnu ei henw'n ôl. Ym 1952, ychydig cyn ei marwolaeth i [[cancr|gancr]] yn 33 mlwydd oed, rhoddwyd y teitl swyddogol o "Arweinydd Ysbrydol y Genedl" iddi gan y Gynghrair Archentaidd.
 
==Dylanwad==
Ysgrifennodd [[Andrew Lloyd-Webber]] a [[Tim Rice]] y sioe gerdd enwog ''[[Evita (sioe gerdd)|Evita]]'' amdani yn [[1978]]. [[Elaine Paige]] a chwaraeodd ran Evita. Yn y ffilm o'r un enw [[Madonna (adlonwraig)|Madonna]] a chwaraeodd ran Evita.
 
 
==Gweler hefyd==
*[[Evita (sioe gerdd)|Evita]] - sioe gerdd Andrew Lloyd Webber.
 
==Dolenni allanol==