Prif Weinidog [[y Deyrnas Unedig]] rhwng [[28 Tachwedd]], [[1990]], a [[2 Mai]], [[1997]], oedd Syr '''John Major''', KG, CH (ganwyd [[29 Mawrth]] [[1943]]). Llwyddodd i ennill [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992|Etholiad Cyffredinol 1992]], er fod y mwyafrif yn disgwyl i [[Neil Kinnock]] a'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] ddod yn fuddugol, neu o leiaf dim un blaid gyda mwyafrif. Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997|Etholiad Cyffredinol 1997]] enilodd y Blaid Lafur eu mwyafrif mwyaf erioed, a chollodd y Blaid Geidwadol nifer fawr o seddi. Ei sedd Seneddol oedd [[Huntingdon (etholaeth seneddol)|Huntingdon]].